Sefydlwyd Gymnasteg Cymru yn 1902 o dan yr enw Welsh Amateur Gymnastics Association - Cymdeithas Gymnasteg Amatur Cymru (WAGA). Dyma gorff llywodraethu cenedlaethol gymnasteg yng Nghymru. O ran enw wreiddiol, WAGA oedd gofalu am gymnasteg artistig dynion a merched.

Gymnasteg Cymru
Math
corff llywodraethu chwaraeon
PencadlysAthrofa Chwaraeon Cymru

Hanes golygu

 
Francesca Jones o Gymru yn cystadlu Gymnasteg Rythmic, Delhi 2010

Ers diwedd y 1990au, mae aerobeg, trampolinio, tymblio ac ysgolion Cymru wedi dod dan faner Gymnasteg Cymru. Gelwir WAGA bellach yn "Gymnasteg Cymru" neu "Welsh Gymnastics". Yn 2014 roedd gan y corff 13,000 o aelodau a gododd i 22,000 o aelodau yn 2016. Ei nod yw, "Mae Gymnasteg Cymru yn anelu at greu cymunedau gwych a phencampwyr. Fel corff rheoli, ‘rydym yn arwain, datblygu, cefnogi, ac yn gweithredu fel gwarchodwr y gamp yng Nghymru."[1]

Mae gan Gymnasteg Cymru gyfrifoldeb cyffredinol am weinyddu pob un o'r wyth disgyblaeth gymnasteg yng Nghymru - gymnasteg artistig a rhythmig menywod, gymnasteg gyffredinol, acrobateg chwaraeon, aerobeg chwaraeon, trampolinio a chwympo ("tumbling") - trwy ei bedair ardal ddaearyddol (gogledd, de, dwyrain a gorllewin ), sy'n gyfrifol am eu cystadleuaeth ardal eu hunain a sesiynau hyfforddi sgwad.[2][3]

Tîm Cenedlaethol golygu

Gymnasteg Cymru sy'n gyfrifol am weindyddiaeth tîm cenedlaethol gymnasteg Cymru sy'n cystadlu yn Gemau'r Gymanwlad (ond nid yn Gemau Olympaidd.[3][4]

Pencadlys golygu

 
Clwb Ieuenctic Canolog Caerdydd, 2009, yr hen bencadlys

Lleolwyd pencadlys y corff yng Nghlwb Ieuenctid Canolog Caerdydd, East Moors, Caerdydd ond symudwyd hi i Ganolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru, Gerddi Sophia, Caerdydd yn 2010.[4][5]

Cydweithio golygu

Yn ogystal â chyfrifoldeb dros y tîm cenedlaethol a threfniadaeth a chystadlaethau fewnol mae Gymnasteg Cymru hefyd yn un o brif gefnogwyr a noddwyr Gemau Cymru, sef pencampwriaeth chwaraeon athletau a gymnasteg a rhai campau tîm eraill a drefnir gan Urdd Gobaith Cymru.

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. https://www.welshgymnastics.org/amdanom-ni/
  2. "Governing Bodies of Sport-Sports Council for Wales". Sports Council for Wales Cyngor Chwaraeon Cymru website. sports council wales. 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-10-15. Cyrchwyd 2009-07-23.
  3. 3.0 3.1 "www.welshgymnastics.org/content/resourcelibrary/downloads/Em13452WG%20Bu" (PDF). Welsh Gymnastics Business Plan 2005–2009. Welsh Gymnastics. 2005. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2011-07-28. Cyrchwyd 2009-07-14.
  4. 4.0 4.1 "History". Welsh Gymnastics website. Welsh Gymnastics. 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-06-03. Cyrchwyd 2009-07-14.
  5. "News Detail". Welsh Gymnastics website. Welsh Gymnastics. 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-28. Cyrchwyd 2010-04-08.