Gyrn (Carneddau)
mynydd a leolir ger Llanllechid, Gwynedd
Mynydd yn y Carneddau, Eryri yw'r Gyrn (542m). Fe'i lleolir ger Llanllechid, Gwynedd. Ni ddylid ei gymysgu gyda Gyrn Wigau (615m) gerllaw.
Math | mynydd ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.198991°N 4.026532°W ![]() |
![]() | |
Saif Gyrn yng ngogledd y Carneddau, rhwng Llanllechid ac Abergwyngregyn. Hanner milltir i'r gogledd ceir Moel Wnion (680m); i'r de mae Gyrn Wigau a Drosgl ac i'r de-orllewin ceir Moel Faban. Saif tarddle Afon Ffrydlas, un o lednentydd Afon Ogwen, ar lethrau deheuol Gyrn; mae'n llifo oddi yno drwy Gwm Ffrydlas i Afon Ogwen yn nhref Bethesda.[1]
Ceir olion sawl safle o Oes yr Efydd ar ei llethrau yn ogystal ag olion gwaith chwarel.
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Map OS 1:50000 Landranger 115.