Hadleigh Parkes
Chwaraewr rygbi rhyngwladol i Gymru yw Hadleigh William Parkes (ganwyd 5 Hydref 1987). Mae'n chwarae yn y cefnwyr ac yn ffafrio safle'r canolwr.
Hadleigh Parkes | |
---|---|
Ganwyd | 5 Hydref 1987 Hunterville |
Dinasyddiaeth | Seland Newydd |
Alma mater | |
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb |
Taldra | 187 centimetr |
Pwysau | 101 cilogram |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Southern Kings, Y Scarlets, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Hurricanes, Blues, Manawatu, Auckland rugby union team, Eastern Province Kings, Saiatama Panasonic Wild Knights, Ricoh Black Rams Tokyo |
Safle | Canolwr, maswr, Asgellwr |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Mae Parkes yn enedigol o Seland Newydd. ac gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf ar y lefel daleithiol yn 2010 gyda Manawatu. Yn 2011, symudodd i Auckland a gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf gyda'r Blues y flwyddyn ganlynol.[1]
Ar ôl tymor gyda'r Gleision, ymunodd â'r Southern Kings ar gyfer tymor 2013, a hynny ar gytundeb blwyddyn.[2][3] Ar ôl aros y fainc drwy gydol gêm gyntaf y Southern Kings yn erbyn Western Force,[4] daeth ar y cae yn ail gêm y tymor yn erbyn y Sharks[5] a dechreuodd y tair gêm nesaf. Fodd bynnag, torrodd ei fraich yn y gêm yn erbyn y Hurricanes yn Wellington[6] a methodd chwarae am fwy na thri mis.[7] Dychwelodd ar gyfer gêm olaf y tymor, gan ddechrau fel asgellwr yn erbyn y Sharks.[8] Chwaraeodd hefyd yn y ddwy gêm ddyrchafiad / diraddiad Super Rugby 2013, gan fethu â helpu'r Kings i gadw eu statws Super Rugby.
Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf o ddau yng nghystadleuaeth Cwpan Currie De Affrica yn gêm agoriadol yn nhymor Adran Gyntaf Cwpan Currie, pan ddechreuodd y gêm yn erbyn y Pumas.[9]
Dychwelodd i Seland Newydd ar ôl y gemau dyrchafiad / diraddiad Super Rugby i fod yn gapten Auckland yng Nghwpan ITM 2013 .[10]
Ar ôl diwedd tymor Cwpan ITM 2014, symudodd Parkes i'r Sgarlets, un o'r pedwar tîm rhanbarthol Cymreig proffesiynol.[11] gan ei ailuno â chyn-hyfforddwr Auckland, Wayne Pivac. Gwnaeth Parkes ei ymddangosiad cyntaf pan ddaeth oddi ar y fainc mewn gêm Gwpan Pencampwyr Rygbi Ewrop yn erbyn Ulster. Daeth ei gyfle cyntaf i ddechrau gêm i'r Sgarlets yn erbyn y Gweilch bythefnos yn ddiweddarach. Sgoriodd Parkes ei gais cyntaf i'r Scarlets yn erbyn Munster, ac fe gafodd hefyd wobr 'Seren y Gêm' am ei berfformiad.[12]
Gyrfa ryngwladol
golyguDewiswyd Parkes i chwarae dros dîm cenedlaethol Cymru wedi iddo gyrraedd y maen prawf o fod wedi preswylio yng Nghymru am dair blynedd. Cafodd ei ddewis ar gyfer gemau Rhyngwladol yr Hydref 2017 a gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn y gêm olaf yn erbyn De Affrica ar 2 Rhagfyr 2017. Chwaraeodd fel canolwr a chafodd ei enwi'n 'Seren y Gêm' ar ôl sgorio dau gais.
Yn dilyn ei berfformiadau disglair yng ngemau rhyngwladol yr hydref ac i'r Sgarlets, cafodd ei ddewis i ddechrau pedair o bum gêm Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2018, gan sgorio cais a chael gwobr 'Seren y Gêm' yn erbyn yr Eidal.[13][14] Dechreuodd bob un o gemau Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2019 heblaw am y gêm yn erbyn yr Eidal. Cafodd wobr 'Seren y Gêm' yn erbyn yr Alban a sgoriodd gais yn erbyn Iwerddon i gyfrannu at sicrhau'r Gamp Lawn gyntaf i Gymru ers 2012.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Blues player profile". Blues. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Chwefror 2013. Cyrchwyd 3 Hydref 2012. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ "Kings to make three signings". EWN Sport. 3 Hydref 2012. Cyrchwyd 3 Hydref 2012.
- ↑ Nodyn:SA Rugby Squad
- ↑ Nodyn:SA Rugby Match Centre
- ↑ Nodyn:SA Rugby Match Centre
- ↑ Nodyn:SA Rugby Match Centre
- ↑ "Parkes blow for Kings". Sport24. 30 Mawrth 2013. Cyrchwyd 9 Ebrill 2013.
- ↑ Nodyn:SA Rugby Match Centre
- ↑ Nodyn:SA Rugby Match Centre
- ↑ "Parkes leads strong Auckland". Planet Rugby. 6 Awst 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-04-13. Cyrchwyd 9 Awst 2013.
- ↑ "Hadleigh Parkes arrives at the Parc". Scarlets. 2 Rhagfyr 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-02-18. Cyrchwyd 17 Chwefror 2016.
- ↑ "Scarlets remain unbeaten at home despite late Munster comeback". Scarlets. 21 Chwefror 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-02-18. Cyrchwyd 17 Chwefror 2016.
- ↑ "Hadleigh Parkes Drafted Wales Squad Autumn". Cyrchwyd 27 Hydref 2017.
- ↑ "New Zealand-born centre Hadleigh Parkes handed Wales debut for South Africa clash and scores à try". The Telegraph. 30 Tachwedd 2017. ISSN 0307-1235. Cyrchwyd 1 Rhagfyr 2017.