Hanes Bywyd Thomas Williams, Capelulo

Hunangofiant Thomas Williams, Capelulo


Mae Hanes Bywyd Thomas Williams, yr Hwn a Adwaenid Wrth yr Enw Thomas Capelulo. A Ysgrifennwyd o'i Enau ef ei hun yn hunangofiant am hanes bywyd Thomas Williams (Twm neu Tomos Capelulo) (tua 1782 - 1855). Roedd Twm yn was, gyrrwr coets, milwr, meddwyn, dirwestwr a llyfrwerthwr Cymreig.[1] Cyoeddwyd y llyfr ym 1854 gan wasg John Jones (Pyll),[2] Llanrwst. [3]

Hanes Bywyd Thomas Williams, Capelulo
Enghraifft o'r canlynolllyfr, hunangofiant Edit this on Wikidata
AwdurThomas Williams Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1854 Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Mae Hanes Bywyd Thomas Williams, Capelulo yn llyfr a rhith ysgrifennwyd gan yr argraffwr John Jones, Llanrwst o nodiadau a gymerodd o holi Twm Capelulo, am brofiadau ei fywyd.

Roedd Twm, o'i gyfaddefiad ei hun; yn feddwyn didrugaredd, yn buteiniwr ac yn ŵr o gymeriad ac ymddygiad drwg. Pan oedd Twm tua 60 mlwydd oed rhoddodd y gorau i'w hen fywyd ofer. Daeth yn ddirwestwr, yn Gristion ac yn aelod ffyddlon o Eglwys y Methodistiaid Calfinaidd. Oherwydd y gweddnewidiad yn ei fywyd wedi iddo goleddu achos dirwest, daeth Twm yn weddol amlwg yn ei ddydd fel "hogyn poster" yr achos. Roedd yn cael ei ddefnyddio fel enghraifft berffaith o'r gwahaniaeth gwyrthiol galliasai troi at ddirwest a throi at Grist gwneud i fywyd y pechadur mwyaf colledig.[3]

Er bod y llyfr wedi ei hysgrifennu, yn bennaf, fel moeswers am rinweddau dirwest, ei werth pennaf bellach yw fel enghraifft brin o fywgraffiad am fywyd dyn gwbl gyffredin ar droad y 18/19g. Er bod nifer o fywgraffiadau eraill am bobl a anwyd i dlodi ond a godwyd i uchel arswydus swyddi fel gweinidogion, cyfreithwyr, gwleidyddion ac ati, mae Hanes Bywyd Thomas Williams, Capelulo yn enghraifft brin (mewn unrhyw iaith) o gofiant am un a anwyd a fu farw yn dlotyn yn haen isaf y dosbarthiad cymdeithasol

Cynnwys golygu

Cyhoeddwyd y llyfryn fel traethawd, heb unrhyw benodau ond gellir rhannu ei gynnwys yn fras i 6 adran:

  • I
    Cyflwyniad rhagarweiniol i wrthrych y llyfr gan John Jones, Llanrwst.
  • II
    Ieuenctid Twm. Ei ddiffyg cyfleoedd addysg, ei swyddi gyntaf ar ôl ymadael a'i addysg brin yn 10 mlwydd oed yn "dal penau (sic) ceffylau boneddigion, a gwneud negesau a mân orchwylion hyd y dref." Yn gweithio fel Ostler (gwas oedd yn gyfrifol am edrych ar ôl ceffylau gwesteion) mewn gwestai yn nyffryn Conwy a'i gyflwyniad at y ddiod gadarn yn 12 mlwydd oed trwy weithio mewn gwestai.
  • III
    Ei gyfnod milwrol. Er bod Twm wedi chwarae rhan mewn nifer o ymgyrchoedd allweddol ar draws y byd yn y cyfnod Napoleonaidd does dim sôn am wrhydri mewn brwydr, dim ond hanesion am feddwi, puteinio, fflangellu a charcharu am gam ymddygiad.
  • IV
    Wedi ymadael a'r fyddin. Begera, hwsmona, ennill betiau am redeg yn noethlymun trwy Lanrwst a Llansanffraid Glan Conwy. Ennill arian ac yn ei golli trwy hel puteiniaid ar ôl meddwi a'r puteiniaid yn dwyn ei arian yn ei feddwdod.
  • V
    Sobri, ymateb ei gyn cyd llymeitwyr. Dod yn llyfrwerthwr.
  • VI
    Diweddglo gan John Jones, Llanrwst.

Gwaddol golygu

Defnyddiodd Robert Owen Hughes (Elfyn), llyfr Thomas Williams, Capelulo, fel sail i gyfres o erthyglau am "Gapelulo" yn y Cylchgrawn Cymru ym 1904 [4]. Roedd erthyglau Elfyn yn cynnwys cofiannau gwreiddiol Capelulo ac yn ychwanegu sylwadau hen bobl oedd yn ei gofio. Cyhoeddwyd erthyglau Elfyn fel llyfr ym 1907 ai ail gyhoeddi ym 1927

Ym 1982 ailgyhoeddodd Gwasg Carreg Gwalch y llyfr gyda rhagarweiniad gan Gerald Morgan o dan y teitl Lle diogel i sobri: sef hunangofiant Thomas Williams (Capelulo) [5]

Dolenni allanol golygu

Hanes Bywyd Thomas Williams, Capelulo ar Wicidestun

Cyfeiriadau golygu

  1. WILLIAMS, THOMAS ('Capelulo '; c. 1782 - 1855), meddwyn diwygiedig, llyfrwerthwr teithiol, cymeriad. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 23 Awst 2021
  2. JONES, JOHN (1786 - 1865), argraffydd a dyfeisiwr. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 27 Awst 2021
  3. 3.0 3.1 Hanes Bywyd Thomas Williams, Capelulo ar Wicidestun
  4. Cymru; Capelulo adalwyd 26 Awst 2021
  5. Williams, Thomas, a Gerald Morgan. Lle Diogel I Sobri : Sef Hunangofiant Thomas Williams (Capelulo) / Gol. Gerald Morgan. Capel Garmon: Gwasg Carreg Gwalch, 1982