John Jones (Pyll)
Argraffydd, cyhoeddwr a bardd oedd John Jones (tua diwedd Ebrill neu ddechrau Mai 1786 – 29 Mawrth 1865)[1][2], a adwaenir gan amlaf fel John Jones, Llanrwst neu wrth ei enw barddol Pyll. Roedd yn ŵyr i'r argraffydd arloesol Dafydd Jones o Drefriw. Cyhoeddodd sawl llyfr a argraffwyd ganddo ar y wasg argraffu a adeiladwyd ganddo ei hunan; mae'r llyfrau unigryw hynny yn cynnwys y llyfrau Cymraeg lleiaf a argraffwyd erioed, llyfr byd natur Faunula Grustensis (1830) gan John Williams,[2] ac ef hefyd oedd rhith-adwdur a chyhoeddwr Hanes Bywyd Thomas Williams, Capelulo.[3]
John Jones | |
---|---|
Ffugenw | Pyll |
Ganwyd | 7 Mai 1786 Trefriw |
Bedyddiwyd | 7 Mai 1786 |
Bu farw | 19 Mawrth 1865 Llanrwst |
Man preswyl | Llanrwst |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd, argraffydd, llyfrwerthwr, rhwymwr llyfrau |
Plant | Evan Jones, Owen Evan Jones |
Perthnasau | Dafydd Jones |
- Am bobl eraill o'r un enw, gweler John Jones (tudalen wahaniaethu).
Bywgraffiad
golyguGaned John Jones yn fab i Ismael a Jane Davies (mabwysiadwyd y cyfenw Jones wedi hynny) tua diwedd mis Ebrill neu ddechrau Mai yn y flwyddyn 1786; ni chofnodir ei eni ond fe'i bedyddiwyd ar y 7fed o Fai, 1786. Roedd yn frawd hŷn i Robert Jones argraffwr ym Mangor. 'Bryn Pyll' oedd enw y tyddyn ger Trefriw lle y'i ganed a chymerodd yr enw barddol Pyll oherwydd hynny.[2]
Pan oedd yn llanc prentisiwyd ef yn ôf mewn gefail leol ond yn 1817 bu farw ei dad, Ismael Jones, cymerodd drosodd ei fusnes argraffu. Aeth ati i ail-drefnu'r busnes. Rhoddodd heibio'r hen argraffwasg, a etifeddasid gan ei dad o Ddafydd Jones, a chynllunio ei wasg ei hun.[4]
Yn 1825 symudodd i Lanrwst gan sefydlu ei wasg yn y dref ac yno y bu hyd ei farw yn 1865, yn 79 oed. Bellach mae argraffwasg John Jones yn grair yn Yr Amgueddfa Wyddoniaeth yn Ne Kensington, Llundain.[2]
Bardd
golyguRoedd John Jones neu "Pyll" yn fardd pur adnabyddus yn ei ddydd. Ei gerdd fwyaf poblogaidd oedd 'Myfyrdod ar Lanau Conwy' (sic), a argraffwyd am y tro cyntaf - gan John Jones ei hun neu gan ei dad efallai - yn y gyfrol Blwch Caniadau (Trefriw, 1812) ac a argraffwyd sawl gwaith mewn blodeugerddi poblogaidd ar ôl hynny.[2]
Llyfrau
golyguCyhoeddodd John Jones sawl llyfr, pamffled baled ac almanac yn ystod ei yrfa. Dyma ddetholiad:
- John Evans (I. D. Ffraid) (cyfieithydd), Bywyd Turpin Leidr (Llanrwst, 1835). Hanes y lleidr penffordd Dick Turpin.
- Goronwy Owen, Gronoviana (Llanrwst, 1860). Casgliad o gerddi a llythyrau Goronwy Owen.
- dienw, Hanes y Lleuad (Llanrwst, dim dyddiad)
- dienw, Gwaith Aristotle (Llanrwst, d.d.)
- "Pyll", Blwch Caniadau (Trefriw, 1812)
- Absalom Roberts, Lloches Mwyneidd-dra (Llanrwst, 1845). Casgliad o'r Hen Benillion, carolau ac englynion.
- John Thomas (Pentrefoelas), Eos Gwynedd, golygwyd gan Caledfryn (Llanrwst, 1845)
- John Williams, Faunula Grustensis (Llanrwst, 1830)
- William Williams, Prydnawngwaith y Cymry (Llanrwst, 1822)
- Thomas Williams, Capelulo, Hanes Bywyd Thomas Williams, Capelulo
Llyfryddiaeth
golygu- Gerald Morgan, Y Dyn a Wnaeth Argraff (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch 1982)
- E. D. Rowlands, Dyffryn Conwy a'r Creuddyn (Lerpwl: Gwasg y Brython, 1947)
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ JONES, JOHN (1786 - 1865), argraffydd a dyfeisiwr. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 27 Awst 2021
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 Gerald Morgan, Y Dyn a Wnaeth Argraff (Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst, 1982).
- ↑ Hanes Bywyd Thomas Williams, Capelulo ar Wicidestun
- ↑ E. D. Rowlands, Dyffryn Conwy a'r Creuddyn (Gwasg y Brython, Lerpwl, 1947)