Hanes Jamaica
Fu sawl enw gwahanol gan Jamaica dros amser. Yn yr iaith Arawaceg y bobl Taino, galwyd hi'n Xaymaca, ond Santiago oedd enw'r ynys i goloneiddwyr o Sbaen, cyn i goloneiddwyr o Brydain ei galw'n Jamaica.
Math o gyfrwng | hanes gwlad neu wladwriaeth |
---|---|
Math | hanes y Caribî |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cyfnod y Taíno
golyguPobl Arawacaidd o'r enw Taíno oedd cynfrodorion Jamaica a darddodd o arfordir Gaiana yn Ne America.[1] Daethant i Jamaica yng nghanol y 7g, wedi iddynt deithio i ogledd y Caribî mewn badau o ryw fath a allai croesi'r môr o ynys i ynys. Daw'r enw "Jamaica" o'r gair Arawaceg Xaymaca, sef "gwlad y pren a'r dŵr". Ffermwyr oedd y Taíno a dyfodd indrawn, casafa, ffrwythau, tatws melys a llysiau eraill, cotwm, a thybaco. Codasant aneddiadau ar draws yr ynys, y nifer fwyaf ar hyd yr arfordir a'r afonydd er mwyn pysgota. Trigasant mewn pentrefi dan arweiniad penaethiaid lleol, a byddai'r Taíno yn sefydlu cymdeithas ymgynhaliol ac heddychlon, gan gyrraedd poblogaeth o ryw 100,000 erbyn diwedd y cyfnod cyn-Golumbaidd.
Gwladfa Santiago
golyguGlaniodd y fforiwr o'r Eidal Cristoforo Colombo, neu Cristoffer Columbus, yng ngogledd yr ynys ar 4 Mai 1494, yn ystod ei ail fordaith i'r Byd Newydd, ac hawliodd y diriogaeth ar ran Fernando ac Isabel I, brenhines Castilla, teyrnoedd Sbaen. Dychwelodd Columbus i Jamaica unwaith eto ym 1503, wedi i'w long ddryllio ar ei bedwaredd fordaith i'r Amerig. Ym 1509 sefydlodd y Sbaenwyr Sevilla Nueva (Sevilla Newydd), y wladfa Ewropeaidd barhaol gyntaf ar yr ynys. Sefydlwyd Santiago de la Vega, a elwir bellach Spanish Town, ym 1538 fel canolfan weinyddol ar gyfer y diriogaeth dan feddiant Sbaen.
Ymhen deugain mlynedd ers dyfodiad y Sbaenwyr, câi'r Taíno eu darfod bron yn gyfan gwbl o'r ynys. Bu farw'r mwyafrif ohonynt o afiechydion a gyflwynwyd gan yr Ewropeaid, a lladdwyd niferoedd eraill dan ormes y gorchfygwyr, mewn cyflafanau neu o ganlyniad i'r gaethwasanaeth a orfodwyd arnynt. O ganlyniad i ddifodiant y poblogaethau cynfrodorol ar draws y Caribî, a ystyrir yn hil-laddiad i raddau, nid oes yr un unigolyn heddiw yn Jamaica neu unrhyw wlad arall sydd yn Taíno cyfan, er bod rhai yn disgyn yn rhannol ac yn arddel hunaniaeth Taíno.
Wrth i boblogaeth y Taíno ddiflannu, trodd y Sbaenwyr at fasnach gaethweision yr Iwerydd am lafur, a mewnforiwyd niferoedd mawr o Affricanwyr croenddu i'r ynys. Cyflwynodd y gwladychwyr Ewropeaidd amaeth da byw—gwartheg a moch—yn ogystal â chnwd newydd, siwgr.
Gwladfa Jamaica (1655–1962)
golyguCipiwyd yr ynys gan Loegr ym 1655 (yng nghyfnod y Werinlywodraeth), wedi i griw o forwyr a milwyr Seisnig lanio yn harbwr Kingston ar 10 Mai a gorymdeithio i Santiago de la Vega. Trannoeth, ildiodd y Sbaenwyr a gadawsant yr ynys ymhen ychydig ddyddiau. Ffoes rhai ohonynt i Giwba, ynys arall dan reolaeth Sbaen, ac eraill yn gudd i ogledd Jamaica. Yn sgil cwymp y drefn Sbaenaidd, cafodd nifer o gaethweision eu rhyddhau neu eu gadael gan y meistri, ac yn y mynyddoedd a'r tiroedd anghysbell chwiliasant am loches rhag y gorchfygwyr Ewropeaidd newydd. Yn y rhanbarth garw a elwir yn Cockpit Country, sefydlasant gymunedau o gyn-gaethweision, a dyfodd gyda rhagor o ffoaduriaid o blanhigfeydd y Saeson. Rhoddwyd yr enw Maroons, o'r Sbaeneg cimarrones (gwylliaid, ffoaduriaid), ar y bobloedd dduon rhydd. Byddant yn ysgarmesu â'r gwladychwyr o Deyrnas Lloegr (Prydain Fawr yn ddiweddarach) am 150 mlynedd bron.
Ildiodd Sbaen y diriogaeth yn ffurfiol i Deyrnas Lloegr ym 1670, ond roedd y Saeson wedi hen sicrhau eu rheolaeth dros yr ynys erbyn hynny. Troesant Jamaica yn blanhigfa fawr i dyfu cansen siwgr, gan fewnforio rhagor o gaethweision o Affrica i weithio'r tir. Pobloedd Akan, yn bennaf Ffantïaid ac Asianti, o'r Traeth Aur oedd y mwyafrif o'r caethweision, a dygwyd hefyd niferoedd o Igboaid, Edoaid, ac Iorwbaid o Nigeria a Mandingos o Gini i Jamaica.
Annibyniaeth (ers 1962)
golyguAr ôl i Norman Manley gael ei ethol yn Brif Weinidog ym 1955, gwnaed sawl gwelliant cyfansoddiadol. [2] Daeth y wlad yn aelod o Ffederasiwn India'r Gorllewin, a chwalodd yn ddiweddarach.[3] Ar 19 Gorffennaf 1962, pasiodd Senedd y Deyrnas Unedig (San Steffan) Deddf Annibyniaeth Jamaica, gan roi annibyniaeth ar 6 Awst. Aeth Michael Manley, mab Norman Manley, ymlaen i fod yn bedwerydd Prif Weinidog Jamaica a chynnal statws Plaid Genedlaethol y Bobl fel un o ddwy garfan wleidyddol fawr y wlad.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Arawak People". Encyclopedia Britannica. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-11-05. Cyrchwyd 2020-10-17.
- ↑ "Jamaica: Self-government" (yn Saesneg). Encyclopædia Britannica. Cyrchwyd 24 Awst 2013.
- ↑ "The West Indies Federation". 2011 (yn Saesneg). CARICOM. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Medi 2013. Cyrchwyd 24 Awst 2013.
Darllen pellach
golygu- Burnard, Trevor. 2012. "Harvest Years? Reconfigurations of Empire in Jamaica, 1756–1807." Journal of Imperial and Commonwealth History 40.4 (2012): 533–555.
- Cargill, Morris. (1956) "Jamaica and Britain" History Today (October 1956), 6#10 pp. 655–663.
- Henke, Holger. 2000. Between Self-Determination and Dependency. Jamaica's Foreign Relations 1972–1989, Kingston: University of the West Indies Press. ISBN 976-640-058-X.
- Leslie, Charles. (2015) A new history of Jamaica (Cambridge University Press, 2015).
- Pestana, Carla Gardina. (2017) The English Conquest of Jamaica (Harvard University Press, 2017).