Michael Manley
Gwleidydd o Jamaica oedd Michael Norman Manley (10 Rhagfyr 1924 – 6 Mawrth 1997) a wasanaethodd yn Brif Weinidog Jamaica o 1972 i 1980 ac o 1989 i 1992. Gwasanaethodd yn Seneddwr o 1962 i 1967, yn Aelod Seneddol dros Ganol Kingston o 1967 hyd at 1992, ac yn Arweinydd yr Wrthblaid o 1969 i 1972 ac o 1980 i 1989.
Michael Manley | |
---|---|
Michael Manley | |
Ganwyd | 10 Rhagfyr 1924 Kingston, Saint Andrew |
Bu farw | 6 Mawrth 1997 o canser y brostad Kingston |
Dinasyddiaeth | Jamaica |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Arweinydd yr Wrthblaid, Prif Weinidog Jamaica, Minister of Foreign Affairs and Foreign Trade, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | People's National Party |
Tad | Norman Manley |
Mam | Edna Manley |
Priod | Beverley Anderson Manley |
Plant | Rachel Manley |
Gwobr/au | Order of the Nation, Urdd Teilyngdod, Gwobr Cymdeithion O. R. Tambo, Urdd José Martí, Urdd dros ryddid, Urdd Eryr Mecsico |
Ganed ef yn St. Andrew, Gwladfa Jamaica, yn fab i'r gerflunwraig Edna Swithenbank Manley a'r gwleidydd Norman Manley, a sefydlodd Blaid Genedlaethol y Bobl (PNP) ym 1938 a gwasanaethodd yn Brif Weinidog y wladfa o 1955 i 1962. Disgynnai o linach gymysg ar y ddwy ochr, o dras Affricanaidd, Seisnig, a Gwyddelig. Gwasanaethodd Michael Manley yn Awyrlu Brenhinol Canada yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Wedi'r rhyfel, aeth i Loegr i astudio yn Ysgol Economeg Llundain (LSE) dan arweiniad yr Athro Harold Laski, a dylanwadwyd arno'n gryf gan sosialaeth Ffabiaidd. Gweithiodd yn newyddiadurwr ar liwt ei hun yn Llundain cyn dychwelyd i Jamaica ym 1951 ac ymuno â'r papur newydd wythnosol adain-chwith Public Opinion. Bu'n weithgar yn y mudiad llafur, gan gynnwys swydd Arolygydd Siwgr i Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr o 1953 i 1954, a daeth i'r amlwg fel cyflafareddwr. Gwasanaethodd yn Arolygydd yr Ynys ac is-lywydd cyntaf Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr o 1955 i 1972.[1]
Penodwyd Manley i Senedd Jamaica ym 1962 a fe'i etholwyd i Dŷ'r Cynrychiolwyr ym 1967. Olynodd ei dad yn arweinydd y PNP ym 1969. Yn sgil buddugoliaeth y PNP yn yr etholiad cyffredinol ym 1972, penodwyd Manley i olynu Hugh Shearer yn Brif Weinidog Jamaica. Aeth ei lywodraeth ati i gyflwyno polisïau i ailddosrannu cyfoeth. Manley oedd un o sefydlwyr Cymuned a Marchnad Gyffredin y Caribî (Caricom) ym 1973, a daeth Manley i sylw rhyngwladol am bleidio achosion y Trydydd Byd. Magodd gysylltiadau clos â Chiwba, y bloc Dwyreiniol, a gwledydd sosialaidd a chomiwnyddol Asia, ac o ganlyniad cafodd cymorth ariannol oddi ar Unol Daleithiau America i Jamaica ei gwtogi. Arweinydd poblogaidd oedd Manley, a enillai'r llysenw "Joshua" ar ôl y proffwyd yn y Beibl.[2] Enillodd y PNP fwy o bleidleisiau a seddi yn etholiad cyffredinol 1976. Fodd bynnag, gwaethygodd yr economi yn ystod ei ail dymor, yn ogystal â therfysgoedd a thrais rhwng yr adain chwith a'r adain dde. Collodd yr etholiad ym 1980 i Blaid Lafur Jamaica, ac ildiodd yr awenau i'r prif weinidog newydd, Edward Seaga.
Treuliodd Manley y 1980au yn Arweinydd yr Wrthblaid, a dechreuodd mabwysiadu safbwyntiau mwy cymedrol, gan gynnwys gwella cysylltiadau gyda'r Unol Daleithiau. Cafodd etholiad cyffredinol 1983 ei foicotio gan y PNP, gan sicrhau tymor arall i Seaga, ond ym 1989 bu'r PNP yn fuddugol a dychwelodd Manley i'r brifweinidogaeth unwaith eto. Cyflwynodd bolisïau i ryddhau'r farchnad, gan gynnwys preifateiddio nifer o gwmnïau'r wladwriaeth, er iddo barhau i alw ei hun yn sosialydd.[2]
Ymddeolodd Manley ym 1992 oherwydd afiechyd, a dioddefai o ganser y prostad yn ei flynyddoedd olaf. Priododd bum gwaith a chafodd bum plentyn: gyda Jacqueline Ramellard o 1946 i 1951 (cawsant un ferch), gyda Thelma Verity o 1955 i 1960 (un mab), gyda Barbara Lewars o 1968 hyd at ei marwolaeth ym 1968 (un ferch), gyda Beverley Anderson o 1972 i 1990 (un mab ac un ferch), a chyda Glynne Ewart o 1992 hyd at ei farwolaeth (dim plant).[1] Bu farw Michael Manley yn Kingston yn 72 oed, pum mlynedd wedi iddo ymddeol.
Llyfryddiaeth
golygu- The Politics of Change (1974)
- Jamaica: Struggle in the Periphery (1982)
- A History of West Indies Cricket (1988)
- The Poverty of Nations (1991)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Anthony Payne, "Obituary: Michael Manley", The Independent (8 Mawrth 1997). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 19 Mai 2024.
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) Michael Manley. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 19 Mai 2024.