Ffiseg yw'r gangen o wyddoniaeth sy'n ymwneud â mater, ymddygiad mater a mudiant. Dyma un o'r disgyblaethau gwyddonol hynaf. Enw'r gwaith ysgrifenedig cyntaf am ffiseg a wyddys yw Ffiseg Aristotlys.

Hanes ffiseg
Enghraifft o'r canlynolcangen o wyddoniaeth, agwedd o hanes Edit this on Wikidata
Mathhistory of natural science Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
"Os gwelais ymhellach na rhai, yna gwnes hynny drwy sefyll ar ysgwyddau cewri o ddynion."[1] – Isaac Newton

Mae pobl wedi ceisio deall ymddygiad byd natur ers cyfnod yr Henfyd a chynt. Un rhyfeddod oedd y gallu i ragfynegi ymddygiad cyrff gwybrennol megis yr Haul a'r Lleuad. Cafodd nifer o ddamcaniaethau eu cynnig, a chafodd y rhan fwyaf ohonynt eu hanghymeradwyo. Cafodd y damcaniaethau cynnar hyn eu seilio ar dermau athronyddol, ac ni chawsant eu harbrofi na'u gwireddu fel y gwelir heddiw. Nid oedd damcaniaethau gwyddonwyr cynnar fel Ptolemi ac Aristotlys yn cael eu derbyn yn aml fel rhai a gyfatebai i arsylwadau pob dydd. Er hynny, roedd athronyddwyr a seryddwyr Indiaidd a Tsieineaidd yn rhoi nifer o ddisgrifiadau dilys yn y maes atomig a seryddiaeth, ac roedd y Groegwr Aristolys wedi disgrifio nifer o ddamcaniaethau dilys am fecaneg a hydrostateg. Fe ddatblygodd ffiseg yn wyddoniaeth fwy arbrofol gyda gwaith y ffisegwyr Mwslim yn yr Oesoedd Canol ac ar ôl hynny gan ffisegwyr Ewropeaidd.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "If I have seen further, it is only by standing on the shoulders of giants."