Gwleidydd o'r Alban yw Hannah Bardell (ganwyd 1 Mehefin 1983) a etholwyd yn Aelod Seneddol yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015 dros Livingston; mae'r etholaeth yn Falkirk a Gorllewin Lothian, yr Alban. Mae Hannah Bardell yn cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin.

Hannah Bardell AS
Hannah Bardell


Cyfnod yn y swydd
7 Mai 2015 – Mai 2020
Rhagflaenydd Graeme Morrice

Geni (1983-06-01) 1 Mehefin 1983 (40 oed)
Livingston, Gorllewin Lothian, Yr Alban
Cenedligrwydd Albanwr
Etholaeth Livingston
Plaid wleidyddol Plaid Genedlaethol yr Alban
Logo
Alma mater Prifysgol Stirling
Galwedigaeth Gwleidydd
Gwefan http://www.snp.org/

Fe'i ganed yn Craigshill, Livingston yn 1984. Astudiodd yn Broxburn Academy a Phrifysgol Stirling cyn gweithio ym myd y cyfryngau, yn benodol ar deledu gyda STV Glasgow a GMTV London ble roedd yn Gynorthwyydd Cynhyrchu rhaglen o'r enw Sunday Programme. Cyfarfu Alex Salmond yn 2007 a pherswadiodd ef hi i weithio ar eu hymgyrch etholiadol ar gyfer Etholiad Senedd yr Alban yn 2007. Wedi hynny, gweithiodd yn llawn amser i Salmond ac Ian Hudghton (Aelod o Senedd Ewrop) am dair blynedd.

Etholiad 2015 golygu

Yn Etholiad Cyffredinol 2015 enillodd Plaid Genedlaethol yr Alban 56 allan o 59 sedd yn yr Alban.[1][2] Yn yr etholiad hon, derbyniodd Hannah Bardell 32736 o bleidleisiau, sef 56.9% o'r holl bleidleisiau a fwriwyd, sef gogwydd o +31.0 ers etholiad 2015 a mwyafrif o 16843 pleidlais.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu