Harold Laski
Gwyddonydd gwleidyddol, academydd, a gwleidydd o Loegr oedd Harold Joseph Laski (30 Mehefin 1893 – 24 Mawrth 1950).
Harold Laski | |
---|---|
Ganwyd | 30 Mehefin 1893 Manceinion |
Bu farw | 24 Mawrth 1950 Ysbyty'r Santes Fair |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | economegydd, gwleidydd, llenor, academydd, gwyddonydd gwleidyddol, damcaniaethwr gwleidyddol, cyfieithydd |
Swydd | Labour Party Chair |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur |
Gwobr/au | honorary doctor of the University of Bordeaux |
Ganed ym Manceinion i deulu o Iddewon dosbarth-canol. Yn 1911, priododd â Frida Kerrey, Cristnoges, heb sêl bendith ei deulu. Astudiodd ewgeneg am gyfnod byr yng Ngholeg Prifysgol Llundain cyn iddo gychwyn ar gwrs hanes yng Ngholeg Newydd, Rhydychen. Derbyniodd ei radd yn 1914, a gweithiodd am gyfnod i bapur newydd y Daily Herald. Aeth i Ogledd America i addysgu gwyddor gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol McGill, Montréal, o 1914 i 1916, ac yna ym Mhrifysgol Harvard o 1916 i 1920. Yno fe fu'n gyfeillgar â sawl barnwr a chyfreithegwr o fri, gan gynnwys Oliver Wendell Holmes, Jr., Louis Brandeis, a Felix Frankfurter.[1]
Dychwelodd Laski i Loegr yn 1920 ac ymgyrchodd ar gyfer y Blaid Lafur yn etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1923. Penodwyd yn athro yn Ysgol Economeg Llundain yn 1926 ac addysgodd wyddor gwleidyddiaeth yno nes ei farwolaeth. Yn ystod y Dirwasgiad Mawr, trodd Laski yn Farcsydd, a dadleuodd y gallai trafferthion economaidd cyfalafiaeth arwain at gwymp democratiaeth. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gweithiodd yn gynghorwr i'r Ddirprwy Brif Weinidog Clement Attlee. Yn 1945, penodwyd Laski yn gadeirydd y Blaid Lafur. Bu farw yn Llundain yn 56 oed.[1]
Llyfryddiaeth
golygu- Authority in the Modern State (1919).
- The Foundations of Sovereignty, and Other Essays (1921).
- Grammar of Politics (1925).
- The State in Theory and Practice (1935).
- The Rise of European Liberalism: An Essay in Interpretation (1936).
- Parliamentary Government in England: A Commentary (1938).
- The American Presidency: An Interpretation (1940).
- Reflections on the Revolution of Our Time (1943).
- Faith, Reason, and Civilization: An Essay in Historical Analysis (1944).
- The American Democracy: A Commentary and Interpretation (1948).
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Harold Laski. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 21 Chwefror 2020.