Harry Hambley

Arlunydd a chartwnydd o Gymro

Arlunydd a chartwnydd o Gymro yw Harry Hambley (ganwyd 1999). Mae'n adnabyddus am greu y cymeriad cartŵn "Ketnipz". Roedd ganddo dros 560,000 o ddilynwyr ar Instagram a thros 122,000 ar Twitter yn Mehefin 2018. Mae'n gwerthu nwyddau gyda brand Ketnipz ar ei wefan, yn cynnwys dillad, cerdiau, sticeri a gwaith celf.[1]

Harry Hambley
Ganwyd1999 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcartwnydd, arlunydd Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar ac addysg golygu

Magwyd Harry yn ardal Llandaf, Caerdydd. Aeth i Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr ac mae'n siarad Cymraeg.

Yn disgrifio ei hun yn fewnblyg, roedd gan Harry ddiddordeb mewn darlunio ers yn ifanc. Penderfynodd beidio fynd i'r brifysgol yn groes i ddymuniadau ei athrawon. Roedd yn arfer gwneud lluniau a phortreadau realistic ond penderfynodd symleiddio ei waith a chreodd y cymeriad Ketnipz. Mae'r cymeriad sydd mewn siap ffeuen yn portreadu sefyllfaoedd bob dydd ac yn hoff o odli. Mae Harry yn defnyddio tabled digidol i ddylunio'r cartwnau. Rhannodd ei gartwn cynta drwy Instagram ar 7 Mehefin 2016.

Drwy ei lwyddiant rhyngwladol ar y cyfryngau cymdeithasol, mae wedi cael cyfleoedd i weithio dros y byd mewn llefydd fel Los Angeles, Dinas Efrog Newydd a Mexico. Cafodd ei wahodd gan gwmni Instagram i greu 'sticer' o gymeriad Ketnipz ar gyfer eu ap.[2]

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu