Heberto Padilla
Bardd o Giwba yn yr iaith Sbaeneg Heberto Padilla (20 Ionawr 1932 – 25 Medi 2000).
Heberto Padilla | |
---|---|
Ganwyd | 20 Ionawr 1932 Consolación del Sur |
Bu farw | 25 Medi 2000 o trawiad ar y galon Auburn |
Dinasyddiaeth | Ciwba |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, llenor, academydd |
Cyflogwr |
|
Adnabyddus am | Fuera del juego |
Priod | Belkis Cuza Malé |
Plant | Ernesto Padilla |
Gwobr/au | Cymrodoriaeth Guggenheim |
Bywyd cynnar ac addysg (1932–59)
golyguGaned Heberto Padilla ar 20 Ionawr 1932 yn Puerta de Golpe, Talaith Pinar del Río, yng ngorllewin Ciwba. Astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol La Habana, ond ni gorffennodd ei radd.[1] Cyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o gerddi, Las rosas audaces, yn 1948.
Symudodd Padilla i fyw yn Unol Daleithiau America o 1949 i 1952, ac eto o 1956 i 1959.[1] Gweithiodd yn sylwebydd ar y radio ac yn gyfieithydd.[2]
Y cyfnod wedi'r chwyldro (1959–71)
golyguYn sgil Chwyldro Ciwba yn 1959, dychwelodd Padilla i'w famwlad a mynegodd ei gefnogaeth dros y drefn sosialaidd newydd. Cyhoeddodd y gyfrol y gerddi El justo tiempo humano (1959).[1] Padilla oedd un o'r golygyddion a sefydlodd y cylchgrawn llenyddol Lunes de Revolucion.[2]
Cynrychiolodd Weinyddiaeth Fasnach Ciwba ar deithiau i Lundain a Moscfa, a gweithiodd i'r asiantaeth newyddion Prensa Latina ac yn ohebydd i bapurau newydd a chylchgronau Ciwbaidd, gan gynnwys Granma, papur swyddogol y blaid gomiwnyddol.[1][2]
Fe'o alwyd yn ôl i La Habana yn 1968 wrth i lywodraeth Fidel Castro a chomisariaid diwylliannol Ciwba ddechrau amau negeseuon ei waith.[2] Enillodd wobr flynyddol Undeb Llenorion ac Arlunwyr Ciwba am ei gasgliad o gerddi Fuera del juego (1968). Er hynny, cyhoeddwyd y llyfr gydag atodiad yn condemnio natur wrth-chwyldroadol honedig y gwaith.[1]
Yr helynt (1971–80)
golyguArestiwyd Padilla ar gyhuddiadau o "gynllwynio yn erbyn grymoedd y wladwriaeth", a fe'i cwestiynwyd am fis gan yr heddlu diogelwch cyn iddynt ei ryddhau yn Ebrill 1971.[2] Gorfodwyd iddo ddarllen cyfaddefiad cyhoeddus, rhyw 4000 o eiriau, o flaen Undeb y Llenorion. Bu'n rhaidd iddo hefyd gyhuddo awduron eraill, gan gynnwys ei wraig, o goleddu taliadau gwrth-chwyldroadol.[3] Dangosodd Padilla i'r byd nad ei eiriau ef oedd y rheiny drwy ailadrodd y camgymeriadau gramadegol a ysgrifennwyd gan yr heddlu yn hytrach na'u cywiro.[4]
Achoswyd helynt ym myd llenyddiaeth a daeth Padilla yn enwog am ei drafferthion. Arwyddwyd deiseb ryngwladol gan unigolion o fri, gan gynnwys Jean-Paul Sartre, Simone de Beauvoir, a Susan Sontag, i brotestio'n erbyn erledigaeth Padilla.[3] Cafwyd rhwyg yng nghylchoedd diwylliannol America Ladin, lle'r oedd y mwyafrif helaeth o lenorion, deallusion, ac arlunwyr wedi cefnogi llywodraeth Ciwba drwy gydol y 1960au. Trodd nifer ohonynt, yn eu plith Mario Vargas Llosa, eu cefnau ar Castro mewn ymateb i erledigaeth Padilla. Bu eraill, megis Gabriel García Márquez, yn dadlau bod rhaid derbyn y fath ormes a pharhau i gefnogi'r chwyldro yng Nghiwba, er mwyn gwrthsefyll grym gwrth-sosialaidd yr Unol Daleithiau.[3]
Parhaodd Padilla i fyw yng Nghiwba, dan oruchwyliaeth fanwl y wladwriaeth, am naw mlynedd arall. Gwaharddwyd ei waith yno, a bu'n rhaid iddo ennill ei damaid drwy gyfieithu barddoniaeth o'r Saesneg a gweithio yn rhith-awdur.[2]
Diwedd ei oes (1980–2000)
golyguYn 1980, yn sgil ymgyrch gan Robert B. Silvers, golygydd The New York Review of Books, ac ymyrraeth gan wleidyddion Americanaidd megis y Seneddwr Ted Kennedy, caniatawyd o'r diwedd i Padilla adael Ciwba. Symudodd unwaith eto i'r Unol Daleithiau ac yno adunodd â'i wraig Belkis Cuza Malé.[2] Fe'i croesawyd yn arwr gan yr Arlywydd Ronald Reagan.[3]
Yn 1981, cyhoeddodd nofel am fywyd llenorion a deallusion yng Nghiwba wedi'r chwyldro, En mi jardín pastan los héroes, a chyfrol o gerddi, El hombre junto al mar. Cyhoeddodd ei hunangofiant, La mala memoria, yn 1989.
Addysgodd Padilla lenyddiaeth ym mhrifysgolion Princeton, Efrog Newydd (Sefydliad y Dyniaethau), Miami, Talaith Ohio, a Choleg Bowdoin.[2][3] Yn Princeton, cyhoeddodd Padilla a'i wraig Linden Lane, cylchgrawn a fu'n cynnwys nifer o lenorion ifainc o America Ladin. Dechreuodd yn swydd awdur preswyl ym Mhrifysgol Auburn yn 2000, ac yno addysgodd israddedigion i ysgrifennu a siarad Sbaeneg a chynhaliodd seminar ôl-raddedig ar lenyddiaeth a diwylliant Hispanaidd.[2]
Bu farw Heberto Padilla yn Auburn, Alabama, ar 25 Medi 2000 yn 68 oed.[1]
Cafodd bedwar plentyn: María, Giselle, Carlos, ac Ernesto.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 (Saesneg) Heberto Padilla. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 7 Rhagfyr 2019.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 2.6 2.7 2.8 (Saesneg) Celestine Bohlen, "Heberto Padilla, 68, Cuban Poet, Is Dead", The New York Times (28 Medi 2000). Adalwyd ar 7 Rhagfyr 2019.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 3.5 (Saesneg) Nick Caistor, "Obituary: Heberto Padilla", The Guardian (14 Hydref 2000). Adalwyd ar 7 Rhagfyr 2019.
- ↑ (Saesneg) Fabiola Santiago, "Cuban poet Heberto Padilla dies", The Miami Herald (26 Medi 2000). Adalwyd ar 7 Rhagfyr 2019.