Gabriel García Márquez

Awdur, sgriptiwr a newyddiadurwr yn enedigol o Colombia oedd Gabriel José de la Concordia García Márquez, yn ysgrifennu fel Gabriel García Márquez (ganed 6 Mawrth 192717 Ebrill 2014). Ystyrir ef yn un o brif awduron yr 20g yn yr iaith Sbaeneg.

Gabriel García Márquez
GanwydGabriel José de la Concordia García Márquez Edit this on Wikidata
6 Mawrth 1927 Edit this on Wikidata
Aracataca Edit this on Wikidata
Bu farw17 Ebrill 2014 Edit this on Wikidata
o lymffoma Edit this on Wikidata
Dinas Mecsico Edit this on Wikidata
DinasyddiaethColombia Edit this on Wikidata
Alma mater
  • National University of Colombia Edit this on Wikidata
Galwedigaethnofelydd, awdur storiau byrion, newyddiadurwr, dramodydd, ysgrifennwr, cyhoeddwr, bardd-gyfreithiwr, hunangofiannydd, sgriptiwr, rhyddieithwr, gohebydd gyda'i farn annibynnol Edit this on Wikidata
Adnabyddus amOne Hundred Years of Solitude, The Autumn of the Patriarch, Love in the Time of Cholera, Chronicle of a Death Foretold, The Story of a Shipwrecked Sailor, No One Writes to the Colonel Edit this on Wikidata
Arddullnofel Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadWilliam Faulkner, Virginia Woolf Edit this on Wikidata
Mudiadrealaeth hudol Edit this on Wikidata
PriodMercedes Barcha Edit this on Wikidata
PlantRodrigo García Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Ryngwladol Llenyddiaeth Neustadt, Gwobr Rómulo Gallegos, Gwobr y Gymanwlad am Wasanaeth Rhagorol, Uwch Swyddog y Lleng Anrhydedd, Gwobr Lenyddol Nobel, Premio Nacional de Periodismo Simón Bolívar, Urdd Eryr Mecsico, Urdd Teilyngdod Diwylliannol Gabriela Mistral, Urdd Anrhydedd, Commandeur de la Légion d'honneur‎ Edit this on Wikidata
llofnod

Ganed ef yn Aracataca, yn rhanbarth Magdalena, yn fab i Gabriel Eligio García a Luisa Santiaga Márquez. Priododd Mercedes Barcha ym 1958. Derbyniodd Wobr Ryngwladol Neustadt am Lenyddiaeth yn 1972 a rhoddwyd Gwobr Lenyddol Nobel iddo yn 1982[1].

Addysgodd ei hun ac o ganlyniad peidiodd ag astudio'r gyfraith a dechreuodd weithio fel newyddiadurwr. Bu'n barod iawn i feirniadu gwleidyddion Colymbaidd a thramor. Yn 1958 priododd Mercedes Barcha; cawsant ddau o feibion, Rodrigo and Gonzalo.[2] Mae García Márquez yn adnabyddus am boblogeiddio'r arddull 'Realaeth Hudol' (magic realism), sydd yn defnyddio elfennau hudol yn ochr ac ochr â sefyllfaoedd pob dydd. Lleolir rhai o'i weithiau ym mhentref dychmygol Macondo (wedi'i ysbrydol gan ei dref enedigol Aracataca). Mae llawer o'i lyfrau hefyd yn archwilio'r thema o unigrwydd.

Disgrifiodd Pablo Neruda ei lyfr Cien años de soledad (Can Mlyedd o Unigrwydd) fel "y mwyaf arwyddocal yn yr iaith Sbaeneg ers Don Quijote" (gan Miguel de Cervantes, 1547–1616).

Pan fu farw yn 2014 dywedodd lywydd Colombia ei fod y 'Colombianwr mwyaf mewn hanes'.[3]

Realaeth a realaeth hudol golygu

Mae realaeth yn thema bwysig yn holl waith García Márquez. Dywedodd o'i waith cynnar - El coronel no tiene quien le escriba, ('Sneb yn Ysgrifennu i'r Cyrnol) 1962, Los funerales de la Mamá Grande, (Angladdau y Fam Fawr) 1962 a La mala hora (Yr Amser Drwg), 1966: i gyd yn adlewyrchu realiti bywyd Columbia ac ei fod yn thema sydd yn gosod strwythur rhesymeg y llyfrau. 'Dwi ddim yn difaru eu hysgrifennu, ond maent yn perthyn i fath o lenyddiaeth disgwyliadwy sydd yn cynnig gweledigaeth rhy lonydd a chyfyngedig o realiti."[4]

Yn ei weithiau eraill mae wedi arbrofi gydag arddulliau llai traddodiadol o realiti, y pethau mwyaf anarferol yn cael eu dweud fel eu bod yn gwbl ddi-nod.[5] Un enghraifft a chyfeirir ato'n aml yw'r corff a'r ysbrydol yn esgyn i'r Nefoedd wrth hongian y dillad i'w sychu yn Cien años de soledad, (Can Mlynedd o Unigrwydd) 1967. Yn ôl yr ysgrifenwyr Cubaniadd Alejo Carpentier Mae arddull y gweithiau yn cyrraedd y 'deyrnas ryfeddol’ .[6].

Syniadaeth wleidyddol golygu

Mae García Márquez wedi cefnogi mudiadau ac arweinwyr progresif De America fel mudiad y Sandanistas yn Nicaragua ar ddechrau'r 1980au[7] a bu'n gyfaill personol gyda Fidel Castro.[8]

Yn ei araith "Unigrwydd America Ladin" a draddodwyd wrth dderbyn y wobr Nobel ym 1982 cyfeirir at hanes coloneiddio ac imperialaeth ac y modd mae'r gwledydd y cyfandir yn dioddef fel canlyniad polisi tramor yr Unol Daleithiau.

Ni fynnai America Ladin na ganddi unrhyw rheswm chwaith, fod yn wystl heb awyllus ei hun. - "Unigrwydd America Ladin", Gabriel García Márquez, 1982[9]

Llyfryddiaeth ddethol golygu

  • La Hojarasca, 1955. (Cwymp y dail)
  • Relato de un náufrago, 1955. (Hanes y Llongddryllwr)
  • El canibal, 1955. (Y Canibal)
  • Un día después del sábado, 1955. (Un Diwrnod ar ôl Sadwrn)
  • El coronel no tiene quien le escriba, 1962. ('Sneb yn Ysgrifennu i'r Cyrnol)
  • Los funerales de la Mamá Grande, 1962. (Angladdau y Fam Fawr)
  • La mala hora, 1966. (Yr Amser Drwg)
  • Un Señor Muy Viejo Con Unas Alas Enormes, 1966. (Hen Ddyn gydag Adenydd Mawrion)
  • Cien años de soledad, 1967. (Can Mlynedd o Unigrwydd)
  • Monólogo de Isabel viendo llover en Macondo, 1968. (Ymson Isabel yn Gwylio'r Glaw ym Macondo)
  • La increíble y triste historia de la cándida Eréndira y de su abuela desalmada, 1972. (Hanes Anhygoel a Thrist Erendria Didwyll a'i Nain Dideimlad)
  • Cuando era feliz e indocumentado, 1973. (Pan Roeddwn Llawen a heb Ddogfennau)
  • Chile,el golpe y los gringos, 1974. (Chile, Ergyd y Gringos)
  • Ojos de perro azul, 1974. (Llygaid y Ci Glas)
  • El otoño del patriarca, 1975. (Hydref y Patriarch)
  • Todos los cuentos (1947-1972), 1976. (Yr Holl Straeon)
  • Crónica de una muerte anunciada, 1981. (Cronicl y Farwolaeth Hysbys)
  • Textos costeños, 1981. (Straeon Glan y Môr)
  • Viva Sandino, 1982. (Sandino am Byth)
  • El olor de la guayaba, 1982. (Arogl yr Gwafa)
  • El secuestro, 1982. (Y Herwgipio)
  • El asalto: el operativo con el que el FSLN se lanzó al mundo, 1983. (Yr ymosodiad: yr ymgyrch a lansiodd yr F.S.L.N. i'r byd)
  • Erendira, 1983.
  • El amor en los tiempos del cólera, 1985 (Cariad yn Amser y Colera)
  • Las Aventuras de Miguel Littín Clandestino en Chile, 1986 (Anturiaethau Miguel Littin Cudd yn Chile)
  • El general en su laberinto, 1989. (Y Cadfridog yn ei Labrinth)
  • Doce cuentos peregrinos, 1992. (Deuddeg Hanes Pererinion)
  • Diatriba de amor contra un hombre sentado, 1994. (Geiriau Hallt yn Erbyn Dyn Eistedd)
  • Del amor y otros demonios, 1994. (Cariad a Chythreuliaid Eraill)
  • Noticia de un secuestro, 1996. (Hanes y Herwgipio)
  • Vivir para contarla, 2002. (Byw i'w Dweud)
  • Memoria de mis putas tristes, 2004. (Cofio fy Mhuteiniaid Trist)

Cyfeiriadau golygu

  1.  The Nobel Prize in Literature 1982.
  2. Author Gabriel Garcia Marquez dies, BBC News, 17 Ebrill 2014.
  3. http://www.theguardian.com/books/2014/apr/19/gabrielgarciamarquez-colombia
  4. Apuleyo Mendoza & García Márquez 1983, t. 56
  5. McMurray 1987, t. 18
  6. Maurya 1983, t. 57
  7. http://jan.ucc.nau.edu/~ewh/GGMREVOL.htm
  8. http://www.theguardian.com/books/2014/apr/25/gabrielgarciamarquez-fidel-castro
  9. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-04-25. Cyrchwyd 2014-09-09.