Heinrich Rudolf Hertz
ffisegydd Almaenig
Ffisegydd o'r Almaen oedd Heinrich Rudolf Hertz (22 Chwefror 1857 – 1 Ionawr 1894). Hertz oedd y gwyddonydd cyntaf i brofi'n sicr bod y tonnau electromagnetig wedi'u rhagweld gan hafaliadau electromagneteg James Clerk Maxwell yn bodoli.
Heinrich Rudolf Hertz | |
---|---|
Ganwyd | 22 Chwefror 1857 Hamburg |
Bu farw | 1 Ionawr 1894 o sepsis Bonn |
Dinasyddiaeth | Hamburg |
Alma mater |
|
ymgynghorydd y doethor |
|
Galwedigaeth | ffisegydd, athronydd, dyfeisiwr, academydd |
Cyflogwr |
|
Tad | Gustav Ferdinand Hertz |
Priod | Elisabeth Hertz |
Plant | Mathilde Carmen Hertz, Johanna Hertz |
Gwobr/au | Medal Rumford, Medal Matteucci, La Caze Prize of the Academy of Sciences, Bressa Prize |
llofnod | |
Er anrhydedd iddo, yn y 20g enwyd yr uned amledd, y "hertz", ar ei ôl.
Ganwydd Hertz yn Hamburg ym 1857. Astudiodd wyddoniaeth a pheirianneg yn Dresden, München a Berlin. Cwblhaodd ei PhD ym Mhrifysgol Berlin ym 1880 ac wedi hynny arhosodd yno am dair blynedd yn gynorthwywr i Hermann von Helmholtz. Dysgodd a pharhaodd i wneud ymchwil ym mhrifysgolion Kiel, Karlsruhe a Bonn.[1]
Bu farw yn 36 oed yn ystod llawdriniaeth i drin salwch cronig.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Biography: Heinrich Rudolf Hertz". MacTutor History of Mathematics archive. Cyrchwyd 2 February 2013.