Mae sepsis yn gyflwr sy'n bygwth bywyd sy'n codi pan fydd ymateb y corff i haint yn achosi anaf i'w feinweoedd a'i organau ei hun[1].

Sepsis
Enghraifft o'r canlynolclefyd, symptom, symptom neu arwydd Edit this on Wikidata
Mathgeneral infection, systemic disease Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Sepsis

Symptomau golygu

Mae arwyddion a symptomau cyffredin yn cynnwys y dwymyn, cyfraddau curiad calon cynyddol, cyfradd anadlu uwch, a dryswch.[2]. Efallai y bydd symptomau hefyd yn gysylltiedig ag haint benodol, megis peswch gyda niwmonia, neu boen wrth basio dŵr gyda haint yn yr arennau. Yn yr ifanc iawn, yr henoed, a phobl â system imiwnedd wan, efallai na fydd symptomau haint penodol a gall tymheredd y corff fod yn isel neu'n normal, yn hytrach nag yn uchel. Sepsis difrifol yw sepsis sy'n achosi gweithgaredd organ gwael neu lif gwaed annigonol. [3] Gallai llif gwaed annigonol cael ei amlygu gan bwysedd gwaed isel, lefelau uchel o lactad yn y gwaed, neu allbwn wrin isel. Mae sioc septig yn bwysedd gwaed isel oherwydd sepsis nad yw'n gwella ar ôl rhoi faint rhesymol o hylifau mewnwythiennol.

Achos a diagnosis golygu

Achosir sepsis gan ymateb imiwnedd a achosir gan haint[4]. Yn fwyaf cyffredin, mae'r haint yn facteriol, ond gall fod hefyd o ffyngau, firysau, neu barasitiaid. [5] Mae'r lleoliadau cyffredin ar gyfer yr heintiad cynradd yn cynnwys ysgyfaint, ymennydd, llwybr wrinol, croen ac organau'r abdomen. Mae ffactorau risg yn cynnwys ieuenctid a henaint, system imiwnedd sydd wedi gwanychu o gyflyrau fel canser neu ddiabetes, trawma mawr neu losgiadau. Mae diagnosis yn dibynnu ar bresenoldeb dau o'r tri canlynol: cyfradd anadlu gynyddol, newid lefel ymwybyddiaeth ac iselder pwysedd gwaed wedi eu hachosi gan haint. Argymhellir magu meithriniad gwaed cyn cychwyn rhoi gwrthfiotigau, fodd bynnag, nid oes angen prawf o haint yn y gwaed ar gyfer gwneud diagnosis. Dylid defnyddio delweddu meddygol i chwilio am leoliad posibl yr haint. Mae achosion posibl eraill o arwyddion a symptomau tebyg yn cynnwys anaffylacsis, annigonolrwydd adrenal, cyfaint gwaed isel, methiant y galon, ac embolism ysgyfeiniol, ymhlith eraill.

Triniaeth golygu

Fel arfer, caiff sepsis ei drin â hylifau a gwrthfiotigau mewnwythiennol. Fel arfer, rhoddir gwrthfiotigau cyn gynted â phosibl. Yn aml, perfformir gofal parhaus mewn uned gofal dwys. Os nad yw ailosod hylif yn ddigon i gynnal pwysedd gwaed, gellir defnyddio meddyginiaethau sy'n codi pwysedd gwaed. Efallai y bydd angen awyru a dialysis mecanyddol i gefnogi swyddogaeth yr ysgyfaint a'r arennau. I gynorthwyo triniaeth, gellir gosod cathetr wythiennol canolog a chathetr rhedwelïol ar gyfer mynediad i'r llif gwaed. Mae angen mesurau ataliol ar bobl sydd â sepsis ar gyfer thrombosis gwythiennau dwfn, wlserau straen a wlserau pwysau, oni bai fod amodau eraill yn atal ymyriadau o'r fath. Gallai rhai elwa o reolaeth dynn o lefelau siwgr yn y gwaed gydag inswlin. Mae'r defnydd o corticosteroidau yn ddadleuol[6].

Prognosis, epidemioleg a hanes golygu

Mae difrifoldeb y clefyd yn chware ran fawr wrth bennu'r prognosis. Mae'r risg o farwolaeth o sepsis mor uchel â 30%, o sepsis difrifol mor uchel â 50%, ac o sioc septig mor uchel â 80%. Mae lefel achosion ledled y byd yn anhysbys gan nad oes llawer o ddata o'r byd sy'n datblygu. Mae amcangyfrifon yn awgrymu bod sepsis yn effeithio ar filiynau o bobl y flwyddyn. Yn y byd datblygedig mae sepsis yn effeithio ar ryw 0.2 i 3 o bobl o bob 1000. Mae cyfraddau clefydau wedi bod yn cynyddu. Mae Sepsis yn fwy cyffredin ymhlith dynion na menywod.

Mae rhai amcangyfrifon yn awgrymu bod dros 6 miliwn o farwolaeth flynyddol ledled y byd. Yn y DU mae sepsis yn gyfrifol am 44,000 o farwolaethau bob blwyddyn, yn fwy na'r cyfanswm sy'n farw o ganser y coluddyn, y fron a'r prostad. Er gwaethaf hyn, canfu arolwg diweddar nad yw 44% o bobl yn y DU erioed wedi clywed am sepsis ac nad oes ganddynt lawer o syniad ei fod yn argyfwng sy'n bygwth bywyd[7].

Disgrifiwyd y cyflwr meddygol ers amser Hippocrates.

Enwau Cymraeg eraill golygu

Enwau Cymraeg eraill am sepsis yw gwenwyniad gwaed a madredd


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir.

Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!

Cyfeiriadau golygu

  1. NHS – Sepsis adalwyd 1 Mawrth 2018
  2. [ https://sepsistrust.org/what-is-sepsis/ Sepsis Trust UK – Whst is sepsis] adalwyd 1 Mawrth 2018
  3. Jui, Jonathan (2011). "Ch. 146: Septic Shock". In Tintinalli, Judith E.; Stapczynski, J. Stephan; Ma, O. John; Cline, David M.; et al. (gol.). Tintinalli's Emergency Medicine: A Comprehensive Study Guide (arg. 7th). New York: McGraw-Hill. tt. 1003–14. Cyrchwyd December 11, 2012 – drwy AccessMedicine. Unknown parameter |subscription= ignored (help)
  4. NHS Choices - Sepsis causes adalwyd 1 Mawrth 2018
  5. Deutschman, CS; Tracey, KJ (April 2014). "Sepsis: Current dogma and new perspectives". Immunity 40 (4): 463–75. doi:10.1016/j.immuni.2014.04.001. PMID 24745331.
  6. Patel, GP; Balk, RA (January 15, 2012). "Systemic steroids in severe sepsis and septic shock". American Journal of Respiratory and Critical Care Medicine 185 (2): 133–9. doi:10.1164/rccm.201011-1897CI. PMID 21680949. http://www.atsjournals.org/doi/full/10.1164/rccm.201011-1897CI#.VHVoJclZhsg.
  7. The Guardian 18 Medi 2017 Sepsis: the truth about this hidden killer adalwyd 1 Mawrth 2018