Heinrich Schliemann

dyn busnes ac archeolegydd o'r Almaen (1822-1890)

Archaeolegydd amatur o'r Almaen a wnaeth ddarganfyddiadau syfrdanol ar safleoedd Caerdroea yn Nhwrci a Mycenae a Tiryns yng Ngwlad Groeg oedd Heinrich Schliemann (6 Ionawr 1822 - 26 Rhagfyr 1890).

Heinrich Schliemann
GanwydJohan Ludwig Heinrich Julius Schliemann Edit this on Wikidata
6 Ionawr 1822 Edit this on Wikidata
Neubukow Edit this on Wikidata
Bu farw26 Rhagfyr 1890 Edit this on Wikidata
Napoli Edit this on Wikidata
Man preswylAthen, St Petersburg, Ymerodraeth Rwsia, Iliou Melathron Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYmerodraeth yr Almaen, Ymerodraeth Rwsia, Unol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Addysgdoctor honoris causa Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethperson busnes, hanesydd celf, archeolegydd, amlieithydd, masnachwr, teithiwr, entrepreneur, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
MamLuise Therese Sophie Schliemann Edit this on Wikidata
PriodSofia Schliemann Edit this on Wikidata
PlantAgamemnon Schliemann, Andromache Schliemann, Q125101440 Edit this on Wikidata
PerthnasauVadim Andrusov, Dimitrij Andrusov, Alexandros Melas, Adolph Schliemann Edit this on Wikidata
Gwobr/auDinesydd anrhydeddus Berlin, Medal Aur Frenhinol Edit this on Wikidata
llofnod

Ganed Schliemann yn Neubukow, yn fab i weinidog Protestannaidd tlawd. Bu farw ei fam pan oedd yn naw oed. Datblygodd ddiddordeb yng weithiau Homeros yn ieuanc, ac wedi darllen yr Iliad, penderfynodd y byddai ryw rydd yn chwilio am Gaerdroea.

Bu raid iddo adael yr ysgol yn 14 oed, ac aeth yn brentis siopwr yn Fürstenberg. Yn 1844, cafodd waith gyda chwmni allforio a mewnforio, a dangosodd dalent anarferol. Gyrrwyd ef i St Petersburg yn 1846, lle dysgodd Rwseg a Groeg. Erbyn 1858, roedd yn ŵr cyfoethog, a defnyddiodd ei gyfoeth i dalu am ei ymchwiliadau ym maes archaeoleg.

Penderfynodd Schliemann mai Hissarlik yng ngogledd-orllewin Anatolia oedd safle Caerdroea, ac yn 1871 dechreuodd gloddio yno. Yn 1873, darganfu drysorau aur a alwidd yn "Drysor Priam", ar ôl Priam, brenin Caerdroea adeg Rhyfel Caerdroea. Cyhoeddodd Troja und seine Ruinen yn 1875.

Yr un flwyddyn, dechreuodd gloddio yn Orchomenus, ac yn 1876 yn Mycenae. Yno, cafodd hyd i nifer o feddau, gydag esgyrn a thrysorau aur, yn cynnwys masg aur a alwodd yn "Fasg Agamemnon" ar ôl Agamemnon, brenin Mycenae yng nghyfnod yr Iliad.

Bu farw yn Napoli yn 1890, ar ei ffordd yn ôl i Wlad Greog ar ôl llawdriniaeth yn yr Almaen. Aed a'i gorff i Athen i'w gladdu.

Gweithiau golygu

  • La Chine et le Japon au temps présent (1867)
  • Ithaka, der Peloponnesus und Troja (1868)
  • Trojanische Altertümer (1874)
  • Troja und seine Ruinen (1875)
  • Mykena (1878)