Hel Llus yn y Glaw
Blodeugerdd o gerddi caeth a rhydd gan Gruffudd Eifion Owen yw Hel Llus yn y Glaw a gyhoeddwyd yn 2015 gan Gyhoeddiadau Barddas. Man cyhoeddi: Aberystwyth, Cymru.[1]
Awdur | Gruffudd Eifion Owen |
---|---|
Cyhoeddwr | Cyhoeddiadau Barddas |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 19/11/2015 |
Argaeledd | Ar gael |
ISBN | 9781906396886 |
Genre | Barddoniaeth |
Dyma'r trydydd teitl yn y gyfres sy'n cyflwyno gwaith beirdd ifanc - cyfrol sy'n siŵr o dynnu gwên yn ogystal â gwneud inni bendroni, yn gymysgedd o gerddi caeth a rhydd. Mae Hel Llus yn y Glaw ar rhestr fer Llyfr y Flwyddyn 2016.
Yn wreiddiol o Ben Llyn, mae Gruff bellach yn byw yng Nghaerdydd ac yn un o sgriptiwyr y gyfres Pobol y Cwm. Enillodd Fedal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2009 a chwblhaodd draethawd MPhil ar ei arwr mawr, Wil Sam. Mae'n dalyrnwr ac yn stompiwr brwd.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Gwales; adalwyd 1 Awst 2017