Gruffudd Eifion Owen
Bardd ac awdur Cymraeg yw Gruffudd Eifion Owen (ganwyd 1986). Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2018 a'r Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd Bae Caerdydd yn 2009.[1] Ef yw Bardd Plant Cymru rhwng 2019 a 2021.[2]
Gruffudd Eifion Owen | |
---|---|
Ganwyd | 1986 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, bardd |
Bywyd cynnar ac addysg
golyguFe'i magwyd ym Mhwllheli gan fynychu Ysgol Glan y Môr, gan astudio Cymraeg, Hanes a Drama i Lefel A. Yn ei arddegau mynychodd wersi cynganeddu gyda Ifan Prys a’r Prifardd Meirion MacIntyre Huws. Aeth i astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth ac ar ôl graddio aeth ymlaen i ysgrifennu traethawd MPhil ar ei arwr mawr, Wil Sam.[3]
Bywgraffiad
golyguMae Gruff yn byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio fel awdur a golygydd ar ei liwt fy hun. Bu hefyd yn gweithio fel golygydd stori ar y gyfres Pobol y Cwm. Yn 2015, cyhoeddodd cyfrol o gerddi caeth a rhydd, Hel Llus yn y Glaw, a gyrhaeddodd restr fer Llyfr y Flwyddyn 2016 (Categori Barddoniaeth). Yn 2018/2019 roedd yn rhan o gynllun Grŵp Dramodwyr Newydd y Theatr Genedlaethol ac ysgrifennodd ddrama 'Parti Priodas'.[4]
Mae'n aelod o'r criw sy'n trefnu nosweithiau barddol Bragdy’r Beirdd yn y brif-ddinas. Mae'n aelod o dîm ymryson Llŷn ac Eifionydd ac o dîm Talwrn 'Y Ffoaduriaid'. Enillodd stôl Stomp Fawr Caerdydd yn 2017 a stôl Stomp Fwy Caerdydd yn 2018.[5]
Llyfryddiaeth
golygu- Hel Llus yn y Glaw (2015)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gruffudd Eifion Owen yn ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd. Eisteddfod Genedlaethol (10 Awst 2018).
- ↑ Gruffudd Owen o Bwllheli yw Bardd Plant Cymru tan 2021 , Golwg360, 28 Mai 2019.
- ↑ Gruffudd Owen. Prifysgol Aberystwyth. Adalwyd ar 12 Awst 2018.
- ↑ Dewch i adnabod Gruff a Lowri. Theatr Genedlaethol Cymru (12 Mehefin 2019).
- ↑ Dangos a Dweud Llenyddiaeth yn yr Eisteddfod. Prifysgol Caerdydd. Adalwyd ar 12 Awst 2018.