Cian
bardd o'r Hen Ogled
Cian (fl. 6g?) oedd un o'r beirdd cynharaf yn y Traddodiad Barddol Cymraeg. Fe'i cysylltir â'r Hen Ogledd a'r Hengerdd. Roedd yn gyfoeswr, fe ymddengys, i Aneirin a Taliesin.
Cian | |
---|---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Blodeuodd | 6 g |
Cysylltir gyda | Yr Hen Ogledd, Yr Hengerdd |
Dydd gŵyl | 11 Rhagfyr |
Tystiolaeth amdano
golyguNi wyddys dim am y bardd ar wahân i'r ffaith ei fod yn fardd gynnar a ganai yn yr Hen Ogledd, yn ôl pob tebyg. Ceir y cyfeiriad cynharaf ato gan Nennius yn yr Historia Brittonum ar ôl nodyn am Ida, brenin Northumbria (547-579):
- 'Ar y pryd, yn yr amser hwnnw ymladdai Dutigirn (=Eudeyrn) yn wrol yn erbyn cenedl yr Eingl. Yr un adeg bu Talhaearn Tad Awen yn enwog mewn barddoniaeth, a Neirin (=Aneirin) a Thaliesin a Blwchfardd a Chian (a elwir Gwenith Gwawd) ynghyd yn yr un amser a fuant enwog mewn barddoniaeth Gymraeg.'[1]
Ceir cyfeiriad at Cian mewn cerdd yn Llyfr Taliesin, ond nid yw'n ffigwr amlwg yn y Traddodiad Barddol ac ymddengys fod y cof amdano wedi pylu gydag amser. Does dim o'i waith wedi goroesi.
Sant
golyguRoedd sant o'r un enw a'i ddydd gŵyl ar 11 Rhagfyr; mae'n bosib mai'r un person ydoedd.
Gweler hefyd
golygu- Llangïan, pentref ar Benrhyn Llŷn yng Ngwynedd, gerllaw Afon Soch
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Ifor Williams (gol.), Canu Taliesin, t. ix.