Hengist
Yn ôl traddodiad, arweinydd y Sacsoniaid yn amser Gwrtheyrn, oedd Hengist (Hen Saesneg Hengest "ceffyl", efallai o yth-hengest "ton ceffyl" i ddisgrifio un o donnau'r môr[1]) (fl. 5g). Cyfeirir ato gan amlaf gyda'i frawd Hors. Roedd yn dad i Alys Rhonwen (Rhonwen). Fel yn achos Hors a Rhonwen (a ystyrid yn "Fam y Saeson" ac ymgnawdoliad twyll gan y Cymry), daeth Hengist yn symbol o'r Eingl-Sacsoniaid a'r Saeson i Gymry'r Oesoedd Canol.
Hengist | |
---|---|
Llun dychmygol o Hengist mewn cyfrol gan y cartograffydd John Speed | |
Ganwyd | Mileniwm 1. |
Bu farw | c. 488 Caerloyw |
Dinasyddiaeth | Brenhiniaeth Denmarc |
Galwedigaeth | brenin neu frenhines |
Blodeuodd | 5 g |
Tad | Wihtgils |
Plant | Oisc of Kent, Rhonwen |
Cyfeirir at rywun o'r enw Hengist yn y gerdd Beowulf, ond ni ellir profi cysylltiad â Hengist, brawd Hors.
Yn y rhestrau o frenhinoedd Caint, enwir Hengist yn sefydlydd y llinach ac yn dad i Octha ac yn hendaid i Aethelbert ac Egbert ac eraill.
Ceir hanes Hengist a'i frawd yn ymsefydlu yng ngwledydd Prydain yn amser Gwrtheyrn a chyflafan Brad y Cyllyll Hirion yn Historia Brittonum Nennius lle fe'u disgrifir fel disgynyddion y duw Woden.[2] Yn ôl Nennius gwahoddodd Hengist Wrtheyrn a'i bendefigion i wledd yn ei lys. Ond ystryw oedd y cyfan i lofruddio'r Brythoniaid er mwyn meddiannu Ynys Prydain. Cytunodd Gwrtheyrn, dall yn ei gariad at Ronwen, ond ar yr amod fod pawb yn ddiarfog yn y wledd. Ar air penodedig gan Hengist (Nemet eour Saxes! "Gafaelwch yn eich cyllyll!"), tynnodd y Saeson, oedd yn eistedd bob yn ail â'r Brythoniaid wrth y byrddau, eu cyllyll hirion a lladd tri chant o'r Brythoniaid. Dim ond un pendefig a lwyddodd i ddianc o'r gyflafan, sef Eidol, Iarll Caerloyw. Ni fu dewis gan Wrtheyrn wedyn ond ildio de Prydain i gyd i'r Sacsoniaid a ffoi a gweddill ei bobl i Gymru. Ceir ymhelaethiad lliwgar ar yr hanes gan Sieffre o Fynwy yn ei Historia Regum Britanniae.
Ceir cyfeiriad ato gan yr hanesydd Eingl-Sacsonaidd Beda hefyd (tua 731) yn meddiannu Caint gyda'i frawd.[3]
Fe'i enwir gyda Hors yn y gerdd Gymraeg Armes Prydain hefyd, sy'n tynnu ar Nennius efallai trwy ddweud iddynt feddiannu Thanet trwy dwyllo Gwrtheyrn.[4]
Cyfeirir at Hengist a'i frawd mewn un o Drioedd Ynys Prydain fel un o 'Dair Gormes Ynys Prydain':
- Tair gormes a ddaeth i'r Ynys hon, ac nid aeth yr un drachefn ["yn ei hôl"].
- Un ohonynt ciwdod ["llu"] y Coraniaid, a ddaethant yma yn oes Caswallon fab Beli, ac nid aeth yr un ohonynt drachefn. Ac o Asia yr oeddynt yn hanu.
- Ail, Gormes y Gwyddyl Ffichti. Ac nid aeth yr un ohonynt drachefn.
- Trydydd, Gormes y Saeson, a Hors a Hengist yn benaduriaid arnynt.[5]
Ceir sawl cyfeiriad ato gyda'i frawd yng ngwaith y beirdd a hefyd ar ei ben ei hun. Y farn gyffredinol ymysg ysgolheigion bellach yw mai duwiau oedd a chysylltiad a cheffylau oedd y ddau yn wreiddiol, ac iddynt gael eu troi yn gymeriadau hanesyddol yn ddiweddarach.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd 1961; arg. newydd 1991). tud. 406.
- ↑ John Morris (gol.), Nennius (Phillimore, 1980), pennod 31 et. seq..
- ↑ Rachel Bromwich (gol.), op. cit., tud. 406.
- ↑ Ifor Williams (gol.), Armes Prydein (Caerdydd, 1955), llau. 31-2.
- ↑ Rachel Bromwich, op. cit., Triawd 36.