Henrietta Antonia Clive, Iarlles Powis

teithwraig a chasglydd gwyddonol

Roedd Henrietta Antonia Clive, Iarlles Powis (née y Fonesig Henrietta Antonia Herbert), (3 Medi, 1758 - 3 Mehefin, 1830), yn awdures, casglwr mwynau a botanegydd Gymreig.[1] Roedd ei hamser yn yr India, tra bod ei gŵr yn gwasanaethu fel Llywodraethwr Madras, yn ysbrydoliaeth iddi yn y tri maes.[2]

Henrietta Antonia Clive, Iarlles Powis
Ganwyd3 Medi 1758 Edit this on Wikidata
Bromfield Edit this on Wikidata
Bu farw3 Mehefin 1830 Edit this on Wikidata
Neuadd Walcot Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbotanegydd Edit this on Wikidata
TadHenry Herbert, Iarll 1af Powis Edit this on Wikidata
MamBarbara Herbert, Iarlles Powis Edit this on Wikidata
PriodEdward Clive, Iarll 1af Powis Edit this on Wikidata
PlantCharlotte Percy, Duges Northumberland, Edward Herbert, 2ail Iarll Powis, Robert Clive, yr Arglwyddes Henrietta Clive Edit this on Wikidata

Cefndir

golygu

Ganwyd Iarlles Powis ym Mharc Oakley, Bromfield, Swydd Amwythig, i deulu pendefig. Roedd hi'n ferch i Henry Herbert, Iarll 1af Powis, a Barbara, wyres William Herbert, 2il Ardalydd Powis. Roedd ei theulu yn berchen ar eiddo yn Llundain ac ystadau sylweddol yng Nghymru a Swydd Amwythig. Gwerthwyd ei man geni i Robert Clive, Barwn 1af Clive o Plassey, ym 1771, felly treuliodd y Fonesig Henrietta ei harddegau yn nhŷ hynafol y teulu, Castell Powys.[3]

Priododd y Fonesig Henrietta mab ac etifedd yr Arglwydd Robert Clive, Edward Clive, 2il Barwn Clive o Plassey, ym 1784. Roedd y briodas yn fuddiol i'r ddau deulu; roedd gan fam y briodferch enw mawreddog ond llawer o ddyledion, tra bod cyfoeth y priodfab wedi'i gronni yn ystod ymgyrchoedd milwrol Clive yr hynaf yn India. Ymgartrefodd y cwpl yn Neuadd Walcot, yn Lydbury North ger Trefesgob, Swydd Amwythig.[4] Bu iddynt bedwar plentyn:

  • Y Fonesig Henrietta Antonia Williams-Wynn (tua 1835), gwraig Syr Watkin Williams-Wynn, 5ed Barwnig
  • Edward Herbert (1785-1848), 2il Iarll Powis
  • Y Fonesig Charlotte Florentia Percy (1787-1866), gwraig Hugh Percy, 3ydd Dug Northumberland, a daeth yn athrawes breifat i'r Dywysoges Fictoria, edling Coron Lloegr.
  • Robert Henry Clive (1798-1854), gwleidydd

Etifeddodd Lady Clive ystadau Herbert ar farwolaeth ei brawd, George Herbert, 2il Iarll Powis, ym 1801, pan ddaeth Iarllaeth Powis i ben. Dair blynedd yn ddiweddarach, cafodd yr iarllaeth ei ail-greu o blaid ei gŵr, gan ei gwneud hi'n Iarlles Powis.

Casgliadau mwynau a botanegol

golygu

Ym 1798, penodwyd yr Arglwydd Clive yn Llywodraethwr Madras. Dilynodd yr Arglwyddes Clive ef i'r India lle dechreuodd gasglu creigiau a mwynau. Y ferch aristocrataidd gyntaf i ddilyn y hobi hwnnw. Gan fod ei chasgliad yn tyfu, cysylltodd yr Arglwyddes Clive â chasglwyr a gwerthwyr mwynau amlwg, megis James Sowerby, John MacCulloch a Iarlles Aylesford. Mae ei chofnodion yn dangos bod llawer o'r sbesimenau wedi'u rhoi iddi hi gan ei phlant. Trefnwyd y mwynau yng nghasgliad Arglwyddes Clive, a oedd yn cynnwys dros 1,000 o enghreifftiau, yn systematig yn ôl eu natur cemegol, fel oedd yr arferol yn gynnar yn y 19eg ganrif. Yn 1817 cofnododd ei chasgliad â llaw i mewn i ddau gatalog, gan ddefnyddio rhifau i nodi pob sbesimen. Mae chwarter y casgliad gwreiddiol bellach yn cael ei gadw yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru [3] fel un o'r casgliadau mwynau hanesyddol pwysicaf, wedi ei gyflwyno i'r amgueddfa gan ei gor-ŵyr, George Herbert, 4ydd Iarll Powis, ym 1929.

Ar ôl cyrraedd India, fe wnaeth y Iarlles Powis hefyd greu gardd a chadw cofnod o'r planhigion yn ardal Mysore a'r rhanbarth Carnatic.

Ysgrifau

golygu

Mae dyddiaduron Iarlles Clive yn un o gofnodion ysgrifenedig cyntaf am yr India gan fenyw Prydeinig. Cawsant eu cyhoeddi o dan y teitl Birds of Passage. Maent yn garreg filltir bwysig yn natblygiad ysgrifennu teithio benywaidd.[5]

Marwolaeth

golygu

Bu farw Iarlles Powis yn Walcot Hall, Lydbury North ym 1830 yn 71 mlwydd oed a chladdwyd ei gweddillion yn Eglwys y Plwyf, Bromfield. Goroesodd ei gŵr hi, bu ef farw ym 1839.[4]

Cyfeiriadau

golygu