Emrys Owain Roberts
Cyfreithiwr ac Aelod Seneddol Rhyddfrydol olaf etholaeth seneddol Sir Feirionnydd oedd Emrys Owen (neu Owain) Roberts (22 Medi 1910 – 29 Hydref 1990). Roedd hefyd yn ŵr busnes.[1]
Emrys Owain Roberts | |
---|---|
Ganwyd | 22 Medi 1910 Caernarfon |
Bu farw | 29 Hydref 1990 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, cyfreithiwr |
Swydd | Aelod o 39fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 38ain Senedd y Deyrnas Unedig, Dirprwy Aelod Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Gwobr/au | MBE, CBE |
Bywyd cynnar
golyguGanwyd Emrys Roberts yn nhref Caernarfon 22 Medi 1910 yn fab hynaf i Owen Owens Roberts, haearnwerthwr, a Mary Grace (née Williams) y ddau'n enedigol o'r un dref.
Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Caernarfon,[2] Coleg Brifysgol Cymru, Aberystwyth; Coleg Gonville a Caius, Caergrawnt ac yn Ysgol Cyfraith Ryngwladol Genefa.[3] Daeth yn gyfreithiwr ym 1933 ac yn fargyfreithiwr wrth far Gray's Inn ym 1944.
Gwasanaethodd yn yr Awyrlu Brenhinol yn ystod yr Ail Ryfel Byd gan ei ddyrchafu i swydd Squadron Leader.[4]
Gyrfa wleidyddol
golyguYm 1945 cafodd Emrys Roberts gwahoddiad i lenwi'r bwlch fel ymgeisydd y Blaid Ryddfrydol yn Etholaeth Caernarfon ar ôl farwolaeth David Lloyd George methodd cael yr enwebiad gan ei fod yn nhraddodiad Cymru Fydd y Rhyddfrydwyr Cenedlgar Cymreig a bod Rhyddfrydwyr Caernarfon yn chwilio am aelod mwy cefnogol i'r Rhyddfrydwr Cenedlaethol a Cheidwadol y bu Lloyd George yn eu cefnogi ar adeg ei farwolaeth. Wedi ei wrthod am ei genedlgarwch gan Rhyddfrydwyr Arfon cafodd ei wahodd i sefyll dros achos Rhyddfrydiaeth Gymreig, llawer mwy traddodiadol, Sir Feirionnydd. Ond nid oedd y gwynt gwleidyddol yn ei ffafrio.
Daeth llwyddiant i'r Blaid Ryddfrydol yn yr etholaeth yn wreiddiol o ehangu'r bleidlais, yn arbennig felly yn yr ardaloedd diwydiannol megis Ffestiniog. Perchenogion Chwareli megis David Williams, Castell Deudraeth a Samuel Holland cafodd lwyddiant o ehangu'r bleidlais. Erbyn 1922 yr oedd y Blaid Lafur wedi cael troedle yn yr ardaloedd llechi ac yn gweld yr hen sgweiri Rhyddfrydol mor wrthun â'r hen sgweiri Torïaidd.
Ym 1910, tuag adeg etholiad y flwyddyn honno daeth ystadau chwarelyddol ardal Corris ac Abergynolwyn ar y farchnad, heb fawr obaith eu gwerthu. Sylweddolodd y ddarpar AS Rhyddfrydol ar y pryd Henry Haydn Jones bod achub y chwareli yn holl bwysig i'w achos etholiadol a buddsoddodd miloedd lawer o arian ynddynt; ond gan mae buddsoddiad gwleidyddol ydoedd, yn hytrach nag un busnes go iawn, methodd y chwareli, a chafodd Haydn Jones (er gwaethaf ei gefndir dosbarth cyffredin) ei ddarlunio fel un o'r hen "Rhyddfrydwyr Diwydiannol", a rhoddodd gorau i wleidydda gan ddisgwyl colli ei sedd i Lafur.
Er gwaethaf pob darogan, fe lwyddodd Emrys Roberts i dal gafael ar y sedd ym 1945 a 1950, er ei herio o'r chwith gan y Blaid Lafur ac o'r ochr gwladgarol gan ymgeisydd Plaid Cymru Gwynfor Evans
Ym 1951, fe benderfynodd Gwynfor Evans i beidio cystadlu y sedd. Collodd Emrys Roberts y sedd i'r ymgeisydd Llafur; hyd ddiwedd ei oes bu Emrys Roberts yn wenwynig tuag at Gwynfor Evans gan iddo gredu bod Gwynfor wedi tynnu allan ym 1951 yn unswydd i greu ornest Llafur v Plaid ym 1955, ornest a fethodd dwyn ffrwyth i'r achos cenedlaethol. Hyd ei farw bu Emrys Robert yn mynnu y byddai wedi dod i gytundeb a Gwynfor i gadw'r sedd yn achos cenedlaethol "Cymru Fydd" a chenedligrwydd Cymru, ond bod Gwynfor yn gwrthod tycio! [5]
Anrhydeddau
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ ROBERTS, EMRYS OWEN (1910-1990), gwleidydd Rhyddfrydol a gwas cyhoeddus
- ↑ Balsom a Birch, A Political and Electoral Handbook for Wales (Gower, 1980), t.87
- ↑ A. Wyburn-Powell, Clement Davies: Liberal Leader (Politico's, 2003), t.141
- ↑ The Times, 22.11.45
- ↑ David Alwyn ap Huw Humphreys, "Atgofion am Sygrsiau efo'r Diweddar Emrys Owain Roberts" (2013)
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Henry Haydn Jones |
Aelod Seneddol dros Feirionnydd 1945 – 1951 |
Olynydd: Thomas William Jones |