Henry Jones (bu farw 1586)

gwleidydd Cymreig (1532–1586)

Roedd Syr Henry Jones (tua 1532 - 24 Medi 1586) yn wleidydd Cymreig ac yn Aelod Seneddol dros etholaethau Sir Gaerfyrddin, Hen Sallog a Cheredigion[1]

Henry Jones
Ganwyd1532 Edit this on Wikidata
Bu farw24 Medi 1586 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Member of the March 1553 Parliament, Aelod o Senedd 1553, Aelod o Senedd Ebrill 1554, Aelod o Senedd 1554-55, Member of the 1555 Parliament, Aelod o Senedd 1558, Member of the 1559 Parliament, Member of the 1563-67 Parliament, Aelod o Senedd 1571 Edit this on Wikidata

Bywyd Personol golygu

Ganwyd Jones tua 1532 yn fab hynaf Syr Thomas Jones, Abermarlais a'i ail wraig, Mary, merch James Berkley, Thornbury, Caerloyw. Gwasanaethodd ei frawd, Richard Jones, a'i hanner frawd, John Perrot, fel Aelodau Seneddol Sir Gaerfyrddin, gyda John Perrot hefyd yn cynrychioli etholaethau Sandwich, Wareham, Sir Benfro a Hwlffordd.

Erbyn 1554 roedd yn briod ag Elizabeth merch Mathew Herbert, Cogan Pill, Penarth bu iddynt o leiaf un mab sef Syr Thomas Jones, AS Sir Gaerfyrddin ym 1586 a 1597. Bu farw Elizabeth 10 Awst 1571 ac ail briododd Jones ag Elinor merch Henry Somerset ail iarll Caerwrangon, bu hithau hefyd marw cyn diwedd 1571. Ym 1584 priododd ei drydedd wraig Elizabeth merch John Salisbury Lleweni a gweddw John Salisbury, Rug. Bu ganddo o leiaf un mab y tu allan i briodas

Gyrfa seneddol golygu

Gwasanaethodd fel Aelod mewn naw senedd yn olynol. Cynrychiolodd Sir Gaerfyrddin yn seneddau Mawrth a Hydref 1553 a Seneddau Ebrill a Thachwedd 1554. Cafodd ei alw o flaen Fainc y Brenin am beidio a throi i fynnu i eisteddiad mis Ionawr 1554/5, ond gan nad oedd ei absenoldeb wedi ei achosi gan anuffudd-dod i orchymyn brenhinol cafodd ei ryddhau heb gosb. Ym 1555 cafodd ei ethol yn aelod Ceredigion. Ym 1557 roedd yn gwasanaethu 2il iarll Rutland a oedd yn ymladd yn erbyn lluoedd Ffrainc yn yr Eidal, gan hynny doedd dim modd iddo gynnig ei hun i etholwyr Sir Gaerfyrddin na Cheredigion i'w cynrychioli yn y senedd, gan hynny cafodd cynnig sedd bwdr Hen Sallog a oedd yn eiddo i Iarll Penfro, pennaeth y lluoedd yn yr Eidal ac ewyrth ei wraig gyntaf. Wedi dychwelyd i Gymru bu'n cynrychioli Sir Gaerfyrddin mewn tair senedd arall a alwyd ym 1559, 1563 a 1571.[2]

Gwasanaeth cyhoeddus arall golygu

Gwasanaethodd fel Uchel Siryf Sir Aberteifi ym 1553 a 1559, Sir Gaerfyrddin ym 1574 a 1584 a Sir Frycheiniog ym 1580; fu yn Custos Rotulorum Sir Gaerfyrddin o 1562 hyd ei farwolaeth.

Fu yn Ynad Heddwch ar fainc Sir Gaerfyrddin o 1558 ymlaen ac fe fu yn Gwnstabl Castell Llanymddyfri ym 1554.

Cyfeiriadau golygu

Senedd Lloegr
Rhagflaenydd:
Syr John Perrott
Aelod Seneddol Sir Gaerfyrddin
15531554
Olynydd:
Richard Jones
Rhagflaenydd:
James Williams
Aelod Seneddol Ceredigion
1555
Olynydd:
John Pryse
Rhagflaenydd:
Richard Jones
Aelod Seneddol Sir Gaerfyrddin
15631571
Olynydd:
John Vaughan