Thomas Jones (bu farw tua 1559)
Roedd Syr Thomas Jones (tua 1492 - tua 1559) yn ŵr cyhoeddus amlwg yng ngorllewin Cymru yn ystod teyrnasiad Harri VIII a wasanaethodd mewn sawl swydd gan gynnwys Siryf ac Aelod Seneddol.[1]
Thomas Jones | |
---|---|
Ganwyd | 1492 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Aelod o Senedd Lloegr 1542-44, Aelod o Senedd1547-1552, Aelod o Senedd 1558 |
- Am bobl eraill o'r un enw, gweler Thomas Jones.
Teulu
golyguGanwyd Jones tua 1492 yn fab i Siôn ap Thomas ap Gruffydd, Abermarlais ac Eleanor merch Thomas Vaughan Brodorddyn Caerfyrddin. Roedd Siôn ap Thomas yn frawd i Rhys ap Thomas a fu'n brwydro ar faes Bosworth ac, o bosib, a lladdodd Rhisiart III yn y frwydr honno.
Ym 1531 cafodd cyfyrder Jones, Rhys ap Gruffydd, ei ddienyddio am frad yn erbyn Harri VIII; sefydlwyd comisiwn i ail ddosbarthu ei diroedd ar ran y Brenin ac roedd Jones yn aelod o'r comisiwn ac yn un o brif fuddiolwyr y fforffed gan ennill ystadau Abermarlais a Llansadwrn iddo'i hun.
Bu'n briod dwywaith ei wraig gyntaf oedd Elizabeth, merch Syr Edward Done Cydweli bu iddynt dwy ferch; ar ôl ei marwolaeth hi priododd (tua 1532) Mary, merch James Berkeley o Thornbury, Swydd Gaerloyw a gweddw Thomas Perrot, Haroldston, Sir Benfro bu iddynt o leiaf tri mab gan gynnwys Henry Jones a Richard Jones llysfab iddo trwy'r ail briodas oedd John Perrot a oedd yn honni ei fod yn blentyn siawns i Harri VIII[2] bu Henry Richard a John oll yn Aelodau Seneddol Sir Gaerfyrddin.
Dyrchafwyd Jones yn farchog ym 1542
Gwasanaeth cyhoeddus
golyguBu'n gwasanaethu mewn nifer fawr o swyddi brenhinol a chyhoeddus gan gynnwys:
- Gwas y Siambr Frenhinol ym 1513
- Cyd gwnstabl, Castell Llanymddyfri, stiward a rhysyfwr arglwyddiaeth Llanymddyfri ym 1527
- Bonheddwr Tywysydd ym 1532
- Stiward a rhysyfwr, Abermarlais a Chastellnewydd Emlyn a Chwnstabl castell Emlyn ym 1532.;
- Stiward, Hwlffordd a Lacharn ym 1532
- Stiward Llansadwrn ym 1539
- Aelod o Gyngor Dinesig Hwlffordd erbyn 1539 hyd 1546 neu'n hwyrach
- Comisiynydd carthffosydd, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin ym 1540,
- Cwnstabl, castell Dinbych y Pysgod a stiward, arglwyddiaeth Coedrath, 1543
- Llywodraethwr, syrfëwr a derbynnydd, castell ac arglwyddiaeth Arberth, 1543;
- Casglwr cymhorthdal Sir Benfro 1544,
- Ffedari Sir Benfro 1546
- Casglwr dyledion Siroedd Maesyfed, Ceredigion, Caerfyrddin, Morgannwg, Penfro, yr Amwythig a Hwlffordd 1550
- Custos Rotulorum Sir Gaerfyrddin 1558-1559
- Ynad Heddwch ar feinciau Sir Gaerfyrddin, Swydd Gaerloyw, Swydd Henffordd, Swydd Amwythig a Swydd Gaerwrangon
- Uchel Siryf Sir Benfro. 1540-1 a 1548-9,
- Uchel Siryf Sir Gaerfyrddin 1542-3,
- Uchel Siryf Sir Aberteifi 1543-4
- Aelod Seneddol Sir Benfro 1542, 1547[3]
- Aelod Seneddol Sir Gaerfyrddin 1558
Marwolaeth
golyguProfwyd ewyllys Syr Thomas ar 26 Mehefin 1559, sydd yn awgrymu y bu farw'r flwyddyn honno
Cyfeiriadau
golygu- ↑ JONES, Thomas (by 1492-1558/59), of Abermarlais, Carm. and Haroldston, Pemb. The History of Parliament: the House of Commons 1509-1558
- ↑ Royal Bastards Peter Beauclerk-Dewar, Roger Powell The History Press, 2011
- ↑ [1]W R Williams The Parliamentary History of the Principality of Wales adalwyd 17 Mehefin 2016
Senedd Lloegr | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: neb |
Aelod Seneddol Sir Benfro 1542 |
Olynydd: John Wogan |
Rhagflaenydd: John Wogan |
Aelod Seneddol Sir Benfro 1547 |
Olynydd: John Wogan |
Rhagflaenydd: Richard Jones |
Aelod Seneddol Sir Gaefyrddin 1558 |
Olynydd: Richard Jones |