Hwlffordd (etholaeth seneddol)

Roedd Hwlffordd yn gyn-etholaeth seneddol Gymreig a oedd yn dychwelyd un Aelod Seneddol (AS) i Dŷ'r Cyffredin o 1545 i 1885.

Hwlffordd
Etholaeth Bwrdeistref
Creu: 1545
Diddymwyd: 1885
Math: Tŷ'r Cyffredin
Aelodau:Un

Cafodd yr etholaeth ei chreu ym 1545, fel yr ail etholaeth fwrdeistref ar gyfer Sir Benfro. Pan ddanfonodd Cymru ei haelodau cyntaf i San Steffan ym 1542 roedd Hwlffordd yn fwrdeistref oddi fewn i etholaeth Bwrdeistref Penfro.

O 1832-1885 roedd yr etholaeth yn cynrychioli tair bwrdeistref sef Hwlffordd, Abergwaun ac Arberth.

Cafodd yr etholaeth ei diddymu ar gyfer etholiad cyffredinol 1885 gan gael ei chyfuno gydag etholaeth Bwrdeistref Penfro i greu etholaeth newydd Penfro a Hwlffordd.

Aelodau Seneddol

golygu

1543–1660

golygu
Blwyddyn Aelod
1547 Richard Howell [1]
1553 (Hyd) Richard Taylor [1]
1554 (Ebr) Richard Howell [1]
1555 John Bolton neu Button [1]
1558 Thomas ab Owen [1]
1559 Hugh Harris[2]
1562 Rice Morgan [2]
1571 John Garnons [2]
1572 Alban Stepneth [2]
1588 Syr John Perrot[2]
1593 Syr Nicholas Clifford [2]
1597 Syr James Perrot [2]
1601 John Canon [2]
1604 Syr James Perrot
1624 Lewis Powell
1625 Syr Thomas Canon
1626 Syr James Perrot
1628 Syr James Perrot
1629–1640 Dim Senedd
1640 (Ebr) Syr Hugh Owen
1640 (Tach) Syr John Stepney
1645-1648 Syr Robert Needham,
1648-1656 Gwag
1656 John Upton
1660 William Philipps

1660–1832

golygu
Blwyddyn Aelod
1660 William Philipps
1661 Isaac Lloyd
1663 Syr William Morton
1666 Syr Frederick Hyde
1667 Syr Herbert Perrott
1679 William Wogan
1679 Thomas Owen
1681 Thomas Howard
1685 William Wogan
1701 William Wheeler
1702 John Laugharne
1715 Syr George Barlow
1715 John Barlow
1718 Syr John Philipps [3]
1722 Francis Edwardes
1743 George Barlow [3]
1747 William Edwardes[3]
1784 Richard Philipps
1786 William Edwardes
1801 Gwag
1802 William Edwardes
1818 William Henry Scourfield
1826-1835 Richard Philipps

1832-1885

golygu
Blwyddyn Aelod Plaid
1826 Richard Philipps Rhyddfrydol
1835 William Henry Scourfield Ceidwadol
1837 Richard Philipps Rhyddfrydol
1847 John Evans Rhyddfrydol
1852 John Henry Phillips Ceidwadol
1868 William Edwardes Rhyddfrydol
1885 dileu'r etholaeth

Etholiadau

golygu

Etholiadau y 1830au a'r 1840au

golygu

Yn etholiad cyffredinol 1832 ail etholwyd Syr Richard Phillips yn ddiwrthwynebiad ar ran y Blaid Ryddfrydol

Etholiad cyffredinol 1835: Hwlffordd
Etholfraint: 538
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr William Henry Scourfield 241 65.8
Rhyddfrydol J H Peel 125 34.2
Mwyafrif 116
Y nifer a bleidleisiodd 68
Ceidwadwyr yn disodli Rhyddfrydol Gogwydd

Yn etholiad cyffredinol 1841 dychwelodd Syr Richard Phillips fel AS Rhyddfrydol yr etholaeth yn ddiwrthwynebiad.

Yn etholiad cyffredinol 1847 cafodd John Evans ei ethol yn ddiwrthwynebiad ar ran y Blaid Ryddfrydol

Etholiadau yn y 1850au

golygu
Etholiad cyffredinol 1852: Hwlffordd
Etholfraint: 682
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr John Henry Phillips 297 59.4
Rhyddfrydol John Evans 203 40.6
Mwyafrif 94
Y nifer a bleidleisiodd 73.3
Ceidwadwyr yn disodli Rhyddfrydol Gogwydd
Etholiad cyffredinol 1857: Hwlffordd
Etholfraint: 740
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr John Henry Phillips 258 50.2
Rhyddfrydol W Rees 256 49.8
Mwyafrif 2
Y nifer a bleidleisiodd 69.5
Ceidwadwyr yn cadw Gogwydd

Yn etholiad 1859 cafodd John Henry Phillips ei ailethol yn ddiwrthwynebiad. Ym 1862 fe newidiodd Phillips ei enw i John Henry Scourfield.

Etholiadau yn y 1860au

golygu
Etholiad cyffredinol 1865: Hwlffordd
Etholfraint: 669
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr John Henry Scourfield (Phillips gynt) 314 58.6
Rhyddfrydol William Edwardes 222 41.4
Mwyafrif 92
Y nifer a bleidleisiodd 80.1
Ceidwadwyr yn cadw Gogwydd
Etholiad cyffredinol 1868: Hwlffordd
Etholfraint: 1,526
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol William Edwardes 638 56.2
Ceidwadwyr S Pitman 497 43.8
Mwyafrif 141
Y nifer a bleidleisiodd 80.1
Rhyddfrydol yn disodli Ceidwadwyr Gogwydd
 
William Edwardes, Vanity Fair, 1878-09-07

Etholiadau yn y 1870au

golygu

Ym 1873 derbyniodd Edwardes y teitl Yr Arglwydd Kensington. Gan fod Arglwyddiaeth Kensington yn rhan o Bendefigaeth yr Iwerddon, doedd dim hawl ganddo eistedd yn Nhŷ'r Arglwyddi a chafodd barhau yn Aelod Seneddol; ond gan iddo gael ei benodi'n Ystafellwas i'r Brenhines fel rhan o'i fraint fel Arglwydd a bod y swydd honno yn cael ei ariannu gan y Llywodraeth bu'n rhaid cynnal isetholiad i gadarnhau ei swydd fel AS.

Is etholiad Hwlffordd 1873

Etholfraint: 1,592

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Yr Arglwydd Kensington 609 52.2
Ceidwadwyr C R Peel 558 47.8
Mwyafrif 51
Y nifer a bleidleisiodd 73.3
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd

Cafodd yr Arglwydd Kensington ei ail ethol yn ddiwrthwynebiad yn yr etholiad cyffredinol ym mis Chwefror 1874 ond fe honnodd ymgeisydd Ceidwadol Thomas Witcher Davies ei fod wedi ei rwystro rhag sefyll yn groes i'r gyfraith ac fe gododd achos yn erbyn ethol Kensington yn y Cwrt Pledion Cyffredin. Penderfynodd y llys bod etholiad Kensington yn di rym a gorchymynnwyd ail gynnal yr etholiad[4]. Cynhaliwyd yr isetholiad ar 12fed Gorffennaf ond penderfynodd Mr Davies a'i gyfeillion Ceidwadol nad oeddynt am sefyll a gan hynny cafodd yr Arglwydd Kensington ei ethol yn ddiwrthwynebiad eto![5]

Etholiadau yn yr 1880au

golygu
Etholiad cyffredinol 1880: Hwlffordd
Etholfraint: 1,543
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Yr Arglwydd Kensington 686 56.8
Ceidwadwyr EDT Cooper 522 43.2
Mwyafrif 164
Y nifer a bleidleisiodd 78.3
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 "History of Parliament". History of Parliament Trust. Cyrchwyd 2015-01-29.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 2.6 2.7 "History of Parliament". History of Parliament Trust. Cyrchwyd 2015-01-29.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 "History of Parliament". History of Parliament Trust. Cyrchwyd 2015-01-29.
  4. HAVERFORDWEST ELECTION PETITION yn y Cardiff Times 6 Mehefin 1874 [1] adalwyd 30 Ion 2015
  5. HAVERFORDWEST BOROUGHS yn Pembrokeshire Herald and General Advertiser 12 Mehefin [2] adalwyd 30 Ion 2015