Herbert Read

anarchydd Saesneg, bardd, a beirniad llenyddiaeth a chelf (1893-1968)

Hanesydd celf, bardd, beirniad llenyddol ac athronydd o Loegr oedd Syr Herbert Edward Read (4 Rhagfyr 189312 Mehefin 1968). Mae'n fwyaf adnabyddus am nifer o lyfrau celf, a oedd yn cynnwys cyfrolau dylanwadol ar rôl celf mewn addysg. Roedd yn un o awduron cynharaf Lloegr i roi sylw i ddirfodaeth. Roedd yn anarchaidd blaenllaw yn Lloegr, ac roedd yn gyd-sylfaenydd Institute of Contemporary Arts yn Llundain.

Herbert Read
GanwydHerbert Edward Read Edit this on Wikidata
4 Rhagfyr 1893, 4 Tachwedd 1893 Edit this on Wikidata
Muscoates Edit this on Wikidata
Bu farw12 Mehefin 1968 Edit this on Wikidata
Stonegrave Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethhanesydd celf, bardd, ysgrifennwr, athronydd, anarchydd, beirniad llenyddol Edit this on Wikidata
Swyddathro Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amEducation Through Art Edit this on Wikidata
PriodMargaret Read Edit this on Wikidata
PlantPiers Paul Read, John Read, Benedict Read Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd Gwasanaeth Nodedig, Croes filwrol, Gwobr Erasmus, Marchog Faglor Edit this on Wikidata

Roedd Herbert Read yn fab i ffermwr yn Swydd Efrog. Terfynwyd ei astudiaethau ym Mhrifysgol Leeds pan ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf. Gwasanaethodd fel swyddog gyda'r Green Howards yn Ffrainc, a chyhoeddodd farddoniaeth am ei brofiadau yn y ffosydd.

Roedd yn guradur yn yr adran cerameg yn Amgueddfa Victoria ac Albert, Llundain, rhwng 1922 a 1933; yn ddiweddarach bu'n dysgu ym Mhrifysgolion Caeredin, Lerpwl a Llundain. Rhwng 1933 a 1939 roedd yn olygydd y Burlington Magazine.

Mae ei weithiau mwyaf adnabyddus yn cynnwys The Meaning of Art (1931), Art and Society (1937), Education through Art (1943), ac Icon and Idea (1955).

Enillodd Wobr Erasmus ym 1966.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) "Former Laureates: Herbert Read". Praemium Erasmianum Foundation. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-05-18. Cyrchwyd 24 Mai 2019.