Hermynia Zur Mühlen

Awdures o Awstria oedd Hermynia Zur Mühlen (12 Rhagfyr 1883 - 20 Mawrth 1951) sy'n cael ei hystyried yn nodedig am ei gwaith fel awdur plant, cyfieithydd ac ieithydd.[1]

Hermynia Zur Mühlen
FfugenwFranziska Marisa Rautenberg, Lawrence H. Desberry, Traugott Lehmann Edit this on Wikidata
Ganwyd12 Rhagfyr 1883 Edit this on Wikidata
Fienna Edit this on Wikidata
Bu farw20 Mawrth 1951 Edit this on Wikidata
Swydd Hertford, Radlett Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Awstria Awstria
Galwedigaethieithydd, cyfieithydd, llenor, awdur plant Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Gomiwnyddol yr Almaen Edit this on Wikidata
TadViktor Folliot de Crenneville-Poutet Edit this on Wikidata

Ganwyd Hermynia Zur Mühlen (neu Hermine Isabelle Maria Gräfin Folliot de Crenneville, neu Folliot de Crenneville-Poutet) yn Fienna ac fe'i hystyrir yn un o'r awduron benywaidd mwyaf adnabyddus Gweriniaeth Weimar. Roedd hefyd yn sosialydd ymroddedig a chyfeirir ati weithiau fel 'Yr Iarlles Goch'. Hanai o deulu aristocrataidd Catholig yn Fienna; roedd yn or-wyres i Louis Charles Folliot de Crenneville, cadfridog Ffrengig a ymladdodd dros Frenhiniaeth Habsburg yn y Rhyfeloedd Napoleonaidd, a'i thaid ar ochr ei mam oedd y diplomydd Ferdinand, Iarll von Wyndenbruck. Cafodd ei magu yn nhalaith Estonia lle roedd ei thad hefyd yn ddiplomydd. Bu'n briod am gyfnod gyda'r tirfeddiannwr Almaenaidd ceidwadol Viktor von zur Mühlen ond bu'n briodas anhapus a gwahanodd y ddau yn 1923. Erbyn hynny roedd Hermynia Zur Mühlen wedi cwrdd â'r Iddew Almaenaidd Stefan Klein, a fu'n bartner iddi gweddill ei hoes. Prioodd y ddau yn Bratislava, ond wedi i'r Almaenwyr feddiannu Bohemia ym mis Mawrth 1939 bu'n rhaid iddynt ffoi drwy Budapest, Iwgoslafia, yr Eidal, Swistir a Ffrainc cyn cyrraedd Llundain ar 19 Mehefin 1939. Bu farw yn Radlett, Hertfordshire.[2]

Ysgrifennodd Zur Mühlen chwe nofel dditectif dan yr enw Lawrence H. Desberry, a chasgliadau o straeon tylwyth teg wedi'u dehongli o safbwynt radical. Ysgrifennodd hefyd storïau, brasluniau a feuilletonau i'w cyhoeddi o bryd i'w gilydd. Cyhoeddodd gofiant hunangofiannol, End und Anfang, ym 1929, a'r dechrau newydd yw Chwyldro Rwsia. Er iddi adael y Blaid Gomiwnyddol yn dawel tua 1931 neu 1932, arhosodd yn ymrwymedig i sosialaeth.

Gweithiau

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Beate Frakele, 'Reise durch ein Leben. Zum 40. Todestag Hermynia Zur Mühlens', in Siglinde Bolbecher, Literatur in der Peripherie, 1992, p.208. Quoted in Lionel Grossman, 'Remembering Hermynia Zur Mühlen: A Tribute'.
  2. Lionel Grossman, 'Remembering Hermynia Zur Mühlen: A Tribute', in Hermynia Zur Mühlen, The End and the Beginning: a Memoir, Open Book Publishers, 2010, pp.271-295