Hiclys alpaidd
Hiclys alpaidd Anastrophyllum alpinum | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Rhaniad: | Marchantiophyta |
Dosbarth: | |
Urdd: | Jungermanniales |
Teulu: | Scapaniaceae |
Genws: | Anastrophyllum |
Rhywogaeth: | A. alpinum |
Enw deuenwol | |
Anastrophyllum alpinum |
Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Hiclys alpaidd (enw gwyddonol: Anastrophyllum alpinum; enw Saesneg: Joergensen's Notchwort 2). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.
Nid yw’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru.
Mae'r Hiclys alpaidd a'r Hiclys joergensen yn edrych yn hynod o debyg i'w gilydd. Mae gan y ddau: ddail ceugrwm, sy'n troi ar i fyny ychydig, maen nhw'n sgleiniog, yn gochddu tywyll ac yn tyfu mewn sypiau rhydd. Yn wir, hyd at 2005 credwyd mai un rhywogaeth oeddent, ond erbyn hyn gwyddys mai A. alpinum yw'r rhywogaeth fwy cyffredin, mwy (gydag egin rhwng 1 a 2 mm o led), a bod A. joergensenii yn blanhigyn ychydig bach yn llai (gydag egin hyd at 1 mm o led). Er fod y lled yn wahanol mae'r goesynnau tua'r un faint: tua 5 i 10 cm, felly mae Hiclys joergensenii yn amlwg yn fwy main.[1]
Hiclys alpaidd yw un o aelodau prinnaf y mat hepatig gogleddol. dim ond yn y gogledd-orllewin o dir mawr yr Alban mae i'w ganfod. Mae'n tyfu ymysg creigiau neu o dan y grug ar ardaloedd sydd wedi'u draenio'n dda, gerllaw llethrau llaith, serth, sy'n wynebu'r gogledd neu'r dwyrain, yn aml uwchlaw llynnoedd.
Llysiau'r afu golygu
- Prif: Llysiau'r afu
Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[2] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.
Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.
Cyfeiriadau golygu
- ↑ rbg-web2.rbge.org.uk; adalwyd 2 Mai 2019.
- ↑ Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.