Roedd Hildegard Zadek (15 Rhagfyr 1917 - 21 Chwefror 2019) [1] yn soprano operatig Almaenig a pherfformiodd yn rhyngwladol. Anrhydeddwyd hi gyda'r teitl Kammersängerin yn Opera Taleithiol Fienna

Hilde Zadek
Ganwyd15 Rhagfyr 1917 Edit this on Wikidata
Bydgoszcz Edit this on Wikidata
Bu farw21 Chwefror 2019 Edit this on Wikidata
Karlsruhe Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Almaen Yr Almaen
Galwedigaethcanwr opera, hunangofiannydd Edit this on Wikidata
Math o laissoprano Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Awstria am Gelf a Gwyddoniaeth, Uwch-addurn Anrhydeddus am Wasanaeth dros Weriniaeth Awstria Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd Zadek, yr hynaf o dair merch, i Elizabeth (Freundlich) ac Alex Zadek, yn Bromberg, Talaith Posen, ar 15 Rhagfyr 1917. Ar ôl i'w thref enedigol ddod yn Bwylaidd ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, symudodd ei rhieni i Szczecin ym 1920, lle treuliodd Zadek ei hieuenctid.

Gan ei bod hi'n Iddewes gorfodwyd hi i adael yr Almaen ym 1934 gan ymgartrefu ym Mhalestina bryd hynny, lle bu’n gweithio fel nyrs a gwerthwr esgidiau yn Jerwsalem, wrth astudio llais gyda Rose Pauly yn Academi Gerdd Palestina.[2] Ym 1945, dychwelodd i Ewrop i astudio yn Conservatoire Zürich gyda Ria Ginster.[3]

Bywyd a gyrfa golygu

Gwnaeth ei ymddangosiad operatig cyntaf ar 3 Chwefror 1947 yn Opera Taleithiol Fienna yn rôl deitl Aida gan Verdi gan dderbyn canmoliaeth fawr; arhosodd gyda'r theatr tan 1971.[4] Y flwyddyn ganlynol ymddangosodd am y tro cyntaf yng Ngŵyl Salzburg, lle ymddangosodd fel Donna Anna yn Don Giovanni gan Mozart, fel Vittelia yn La clemenza di Tito, hefyd gan Mozart ac yn rôl deitl Ariadne auf Naxos gan Richard Strauss. Roedd ei repertoire hefyd yn cynnwys Elsa yn Lohengrin Wagner, Eva yn ei Dei Meistersinger von Nürnberg, a rolau teitl Iphigénie en Tauride gan Gluck a Tosca gan Puccini.[5] Cymerodd Zadek ran yn première y byd o Antigonae gan Carl Orff ym 1949, a chanodd Magda Sorel yn y première lleol yn Fienna o The Consul gan Menotti ym 1950. Ymddangosodd hefyd gydag Opera Taleithiol München ac Opera Taleithiol Berlin. Ymddangosodd fel gwestai yn y Tŷ Opera Brenhinol yn Llundain (rhwng 1950 a 1953; yn rolau'r teitl Aida a Tosca, Lisa yn The Queen of Spades, Leonora yn Il Trovatore, Contessa Almaviva yn Le Nozze di Figaro), Gŵyl Glyndebourne a Gŵyl Holland, yn y Paris Opéra, La Monnaie ym Mrwsel, La Scala ym Milan, a Maggio Musicale Fiorentino, Theatr Bolshoi ym Moscow, ac ati.

 
Zadek ym mis Ebrill 2015 yn 97 oed

Gwnaeth Zadek ei ymddangosiad cyntaf yn yr Opera Metropolitan yn Ninas Efrog Newydd fel Donna Anna yn Don Giovanni ar 26 Tachwedd 1952. Yn ogystal â Donna Anna (4 perfformiad), yn y Met canodd Eva yn Die Meistersinger von Nürnberg (2 berfformiad), Elsa yn Lohengrin (1 perfformiad), a rôl deitl Aida (1 perfformiad ar 14 Ionawr 1953, ei olaf yn y Met). Ymddangosodd hefyd yn Opera San Francisco a'r Teatro Colón yn Buenos Aires. Ym 1967, cymerodd swydd dysgu yn Academi Gerdd Fienna, a rhoddodd ddosbarthiadau meistr. Ei pherfformiad olaf yn Opera Taleithiol Fienna oedd fel Gerhilde yn Die Walküre ar 3 Ionawr 1971, ymddeolodd o'r llwyfan yr un flwyddyn.[6]

Gadawodd recordiad nodedig o Donna Anna mewn recordiad cyflawn o Don Giovanni, dan arweiniad Rudolf Moralt, gyferbyn â George London, Léopold Simoneau a Sena Jurinac.[7]

Marwolaeth golygu

Dathlodd Zadek ei chanfed pen-blwydd ar 15 Rhagfyr 2017.[8]

Bu farw yn Karlsruhe ar 21 Chwefror 2019 yn 101.

Ar gyfer hyrwyddo cerddorion ifanc, mae Sefydliad Hildegard Zadek wedi cynnal Cystadleuaeth Ryngwladol Hilde Zadek bob dwy flynedd er 2003.

Anrhydeddau golygu

  • 1951 Kammersängerin
  • 1965 Croes Anrhydedd Awstria am Wyddoniaeth a Chelf
  • 1977 Aelod anrhydeddus o Opera Taleithiol Fienna
  • 1978 Medal Anrhydedd Fienna mewn aur
  • 2007 Doethuriaeth er anrhydedd o Brifysgol Cerdd Karlsruhe (ar ei phen-blwydd yn 90 oed)
  • 2012 Tlws Mawr Anrhydedd am Wasanaethau i Weriniaeth Awstria [1]

Llyfrau golygu

Zadek, Hilde (2001). Parschalk, Volkmar (gol.). Mein Leben. 'Die Zeit, die ist ein sonderbar Ding'. Vienna: Böhlau. ISBN 978-3205993629.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Medicine and Opera Hilde Zadek adalwyd 14 Gorffennaf 2020
  2. The Encyclopedia of Jewish Women; Music: Palestine and Israel adalwyd 14 Gorffennaf 2020
  3. Macy, Laura (gol); The Grove Book of Opera Singers, tud 545 Zadek, Hilde Prifysgol Rhydychen (2008). ISBN 9780195337655
  4. Fox, Margalit (24 Chwefror 2019). "Hilde Zadek, Mainstay of the Vienna State Opera, Dies at 101". The New York Times. Cyrchwyd 14 Gorffennaf 2020.
  5. Opera News 23 Chwefror 2019 Hilde Zadek, 101, Post-War Vienna State Opera Mainstay, has Died Archifwyd 2019-04-07 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 14 Gorffennaf 2020
  6. Kennedy, M., & Bourne Kennedy, J. (2007). Zadek, Hilde. Yn The Concise Oxford Dictionary of Music. : Gwasg Prifysgol Rhydychen (mynediad llyfrgelloedd cyhoeddus) adalwyd 14 Gorffennaf 2020
  7. Apple Music Mozart: Don Giovanni, K. 527 adalwyd 14 Gorffennaf 2020
  8. Slipped Disc VIENNA OPERA EXTOLS A 100 YEAR-OLD SOPRANO adalwyd 14 Gorffennaf 2020