His Dark Materials
Trioleg o nofelau ffantasi gan Philip Pullman yw His Dark Materials. Mae'n cynnwys y tri llyfr:
- Northern Lights (1995;The Golden Compass yng Ngogledd America)
- The Subtle Knife (1997)
- The Amber Spyglass (2000)
Enghraifft o'r canlynol | cyfres nofelau, literary trilogy |
---|---|
Awdur | Philip Pullman |
Cyhoeddwr | Scholastic Corporation |
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Iaith | Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi | 1995, 1997, 2000 |
Genre | ffantasi, ffuglen ar gyfer oedolion ifanc, uwch ffantasi, ffuglen yr hanes amgen |
Cymeriadau | Lyra Belacqua, Lord Asriel, Iorek Byrnison, Will Parry, Marisa Coulter, Lord Boreal, Serafina Pekkala, Balthamos, Baruch, Farder Coram, Iofur Raknison, John Faa, Kirjava, Pantalaimon, Lee Scoresby, Roger Parslow, Mary Malone, John Parry, Lady Salmakia, Ruta Skadi, Fra Pavel, The Authority, Metatron, Xaphania |
Prif bwnc | athroniaeth, crefydd, ffiseg |
Yn cynnwys | Northern Lights, The Subtle Knife, The Amber Spyglass |
Gwefan | http://www.philip-pullman.com/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r gyfres yn dilyn stori merch ddeuddeg oed, Lyra Belacqua, wrth iddi deithio drwy nifer o fydysawdau cyfochrog. Mae'r llyfr cyntaf yn digwydd mewn byd sydd â rhai tebygrwydd i'n byd ni. Mae'n cychwyn yn Rhydychen, sydd fodd bynnag yn wahanol mewn llawer o fanylion i'r Rhydychen yn ein byd. Mae arddull gwisg yn debyg i oes Edwardaidd. Nid yw'r dechnoleg yn cynnwys ceir nac awyrennau, ond mae sepelinau (awyrlongau) yn ymddangos yn eu lle. Yn wleidyddol mae'r byd yn theocrataeth, o dan reolaeth ormesol y "Magisterium".
Mae'r elfen ffantasi o bwys. Dyma fyd lle mae yna wrachod hedfan, eirth deallus sy'n gallu siarad. Mae gan Lyra'r gallu i weithredu alethiometer – dyfais fel cwmpawd sy'n rhoi atebion gwir i gwestiynau. Rhan bwysig o'r stori yw'r "dæmoniaid". Yn y byd hwn mae gan pob bod dynol "dæmon" sydd ar ffurf anifail sy'n mynd gyda'r unigolyn hwnnw trwy gydol ei oes. Tra bod y person yn blentyn gall ei ddæmon newid siâp ei anifail, ond gyda dyfodiad llencyndod mae'n cael ffurf sefydlog, derfynol.
Mae'r teitl "His Dark Materials" a nifer o themâu yn y gyfres yn deillio o Paradise Lost gan John Milton.
Mae'r nofelau wedi ei haddasu ar lwyfan ac mewn un ffilm. Yn 2019 darlledwyd cyfres deledu ar y BBC a gynhyrchwyd a ffilmiwyd yn helaeth yng Nghymru.
Cyfeiriadau
golygu- Lenz, Millicent (2005). His Dark Materials Illuminated: Critical Essays on Phillip Pullman's Trilogy. Wayne State University Press. ISBN 0-8143-3207-2.