Historiae Britannicae Defensio

Llyfr yn yr iaith Ladin am hanes Cymru a'r Brythoniaid gan yr ysgolhaig Syr John Price (1502–1555) yw Historiae Britannicae Defensio ('Amddiffyn hanes Prydain'). Fe'i cyhoeddwyd yn 1573, deunaw mlynedd ar ôl marwolaeth Syr John, sy'n adnabyddus yn bennaf fel awdur y llyfr Cymraeg printiedig cyntaf, Yn y lhyvyr hwnn (1546).

Historiae Britannicae Defensio
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurJohn Price Edit this on Wikidata
IaithLladin Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1573 Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata

Fel llenor ac ysgolhaig, roedd John Price yn perthyn i fudiad y Dyneiddwyr ac ysgol y Dadeni Dysg yng Nghymru. Roedd ganddo ddiddordeb mawr yn hanes Cymru a llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol ac roedd yn frwd o blaid llyfr dylanwadol Sieffre o Fynwy, yr Historia Regum Britanniae ('Hanes Brenhinoedd Prydain') a ddaethai dan ymosodiad fel ffug-hanes gan ysgolheigion fel Polydore Vergil. Ysgrifennodd syr John yr Historiae Britannicae Defensio mewn ymateb. Mae'r llyfr yn ddiddorol am sawl rheswm. Roedd Syr John yn gasglwr llawysgrifau brwd a gwelir ei adnabyddiaeth o'r ffynonellau hynny yn y gyfrol. Ceir golwg hefyd ar feddylfryd un o ysgolheigion y Dadeni yng Nghymru a'r modd y dehonglwyd hanes a thraddodiadau Cymru yng ngoleuni'r ddysg newydd. Fel Vergil ei hun, dydy Syr John ddim yn derbyn rhai o'r chwedlau a geir yn ffug hanes Sieffre o Fynwy, yn enwedig y portread o Arthur fel ymerodr mewn llys rhwysgfawr, ond ar y llaw arall mae'n amddiffyn hawl y Brythoniaid (y Cymry) i benarglwyddiaeth Ynys Prydain.

Cyhoeddwyd y llyfr gan Richard Price, fab Syr John, yn 1573. Mae'n bosibl fod yr awdur wedi dechrau ei gyfansoddi mor gynnar a chanol y 1540au. Roedd ei gyhoeddi yn gam pwysig iawn yn astudiaethau Hanes Cymru.

Llyfryddiaeth golygu

Ceir cyfieithiad Cymraeg o'r cyflwyniad Lladin yn y gyfrol,

  • Ceri Davies (gol.), Rhagymadroddion a chyflwyniadau Lladin 1551-1632 (Gwasg Prifysgol Cymru, 1980), tt. 25-47.