Yn y lhyvyr hwnn
Yn y lhyvyr hwnn, gan Syr John Price (1502–1555), oedd y llyfr Cymraeg argraffedig cyntaf.
Enghraifft o'r canlynol | fersiwn, rhifyn neu gyfieithiad |
---|---|
Awdur | John Price |
Cyhoeddwr | Edward Whitchurch |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1546 |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
Yn ôl y dyddiad ar y ddalen deitl, fe'i gyhoeddwyd yn Llundain ym 1546, ond mai lle i amau na ddaeth o'r wasg tan yn y gynnar ym 1547 (cyn 25 Mawrth). Mae'r ansicrwydd yma am y dyddiad cyhoeddi wedi arwain rhai ysgolheigion, fel Ifor Williams, i ddadlau dros osod Oll synnwyr pen Kembero ygyd gan William Salesbury o flaen y rhestr, am i'r llyfr hwnnw ddod allan ym 1547, ond ar y cyfan tueddir i dderbyn llyfr Price fel y llyfr Cymraeg cyntaf i gael ei gyhoeddi.
Nodir y cynnwys ar ddalen deitl y llyfr:
Yn y lhyvyr hwnn y traethir. / Gwyðor kymraeg. / Kalandyr. / Y gredo, neu bynkeu yr ffyð gatholig. / Y pader, ney weði yr arglwyð. / Y deng air deðyf. / Saith Rinweð yr egglwys. / Y kampeu arveradwy ar Gwyðieu gochladwy ae keingeu. / M.D.XLVI.
Yn y llyfr hwn y traethir / Gwyddor Cymraeg / Calendr / Y gredo, neu bynciau'r ffydd Gatholig / Y pader, neu Weddi'r Arglwydd / Y dengair Deddf / Saith rinwedd yr eglwys / Y campau arferadwy a'r gwydiau gocheladwy a'u ceingau[1]
Yn ogystal â'r deunydd uchod, sef yr wyddor Gymraeg, Credo'r Apostolion a'r Pader a.y.y.b., ceir cyfarwyddyd ynglŷn â darllen Cymraeg a chalendr o wyliau crefyddol pwysig sy'n cynnwys gwybodaeth tymhorol ar gyfer ffermwyr.
Bwriad y llyfr oedd i hyrwyddo Protestaniaeth. Cymerodd yr awdur rhan flaenllaw yn y broses o dorri Eglwys Loegr rhag awdurdod y Pab a ddiddymu'r mynachlogydd. Ystyr y gair Catholig yw cyffredinol, cyson, cywir, ffyddlon [2]. Mae pob defnydd o'r gair "Catholig" yn y llyfr yn rhoi'r ddadl bod Eglwys Loegr wedi etifeddu y mantell Catholig ar gyfer Eglwys Loegr. Cyfeiriad at Eglwys Loegr, nid at yr Eglwys Catholig Rhufeinig yw pob defnydd o'r gair "Catholig" yn y llyfr!
Mae'r unig gopi o'r llyfr sydd wedi goroesi yn cael ei gadw gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Llyfrgell Genedlaethol Cymru – National Library of Wales : Erthygl R. Geraint Gruffydd
- ↑ Catholigaidd
- ↑ "Adroddiad Blynyddol / Annual Report 1909" (PDF). National Library of Wales. Cyrchwyd 26 Tachwedd 2015.
- Thomas Parry, Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900 (Caerdydd, 1944), tt. 151, 170-71