Hlukhiv
Dinas fechan yn Wcráin yw Hlukhiv (Wcreineg: Глу́хів) a leolir yn Oblast Sumy yng ngogledd-ddwyrain y wlad, nid nepell o'r ffin â Ffederasiwn Rwsia. Saif ar lannau Afon Esman.
Trem ar Hlukhiv, gydag Eglwys y Tair Santes Anastasia yng nghanol y llun. | |
Math | dinas bwysig i'r rhanbarth yn Wcráin |
---|---|
Poblogaeth | 33,478 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Mishelʹ Tereshchenko |
Cylchfa amser | UTC+2, UTC+03:00 |
Gefeilldref/i | Svishtov |
Daearyddiaeth | |
Sir | Hlukhiv Hromada |
Gwlad | Wcráin |
Arwynebedd | 83.74 km² |
Uwch y môr | 166 metr |
Gerllaw | Esman' |
Cyfesurynnau | 51.676458°N 33.907781°E |
Cod post | 41400 |
Pennaeth y Llywodraeth | Mishelʹ Tereshchenko |
Sonir am Hlukhiv yn gyntaf yng Nghronicl Hypatia fel dinas yn Nhywysogaeth Chernihiv, yn rhanbarth hanesyddol y Seferiaid, ym 1152. Yn sgil goresgyniad y Rws Kiefaidd gan y Mongolwyr yng nghanol y 13g, Hlukhiv oedd prifddinas un o'r is-dywysogaethau (neu apanaeth-dywysogaethau) hyd at ganol y 14g. Cipiwyd y ddinas gan Uchel Ddugiaeth Lithwania yn y 1530au, a chan Uchel Ddugiaeth Moscfa ym 1503. Ym 1618 daeth yn rhan o'r Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd, a derbyniodd hawliau dinesig dan Gyfraith Magdeburg.[1]
Yn sgil Gwrthryfel Khmelnytsky (1648–57) yn erbyn Coron Pwyl, daeth Cosaciaid Zaporizhzhia dan benarglwyddiaeth Tsaraeth Rwsia, a daeth Hlukhiv felly yn rhan o'r Hetmanaeth. Yma ar 16 Mawrth 1669 arwyddwyd Erthyglau Hlukhiv gan yr Hetman Demian Mnohohrishny a dirprwyon Rwsiaidd, gan ddiffinio'r berthynas wleidyddol a chyfreithiol rhwng yr Hetmanaeth a'r Tsaraeth. Byddai Hlukhiv yn safle fasnach bwysig rhwng Rwsia a Glan Chwith Wcráin, ac yn ganolfan filwrol yng Nghatrawd Nizhyn. Yn sgil dinistr Baturyn ym 1708, dyrchafwyd Hlukhiv yn brifddinas Hetmaniaid Zaporizhzhia hyd at 1722, pryd daeth yn ganolfan i Golegiwm Rwsia Fechan, corff gweinyddol Ymerodraeth Rwsia yn y Lan Chwith. Yn sgil diddymu'r Colegiwm ym 1727 daeth unwaith eto yn brifddinas yr Hetmanaeth, a thyfodd yn sylweddol dan reolaeth Danylo Apostol (1727–34) a Kyrylo Rozumovsky (1750–64). Ym 1738 sefydlwyd Ysgol Ganu Hlukhiv, yr ysgol gyntaf o'i bath yn yr ymerodraeth. O 1764 i 1773, Hlukhiv oedd prifddinas y drefn ymerodrol newydd yng Nglan Chwith Wcráin, Llywodraethiaeth Rwsia Fechan. Yn ystod y cyfnod hwn o ddarostyngiad Wcráin i Rwsia, bu Hlukhiv yn dref sirol yn Rhaglawiaeth Novhorod-Siverskyi o 1782 i 1802 ac yn Llywodraethiaeth Chernihiv o 1802 ymlaen.[1]
Wedi Chwyldro Rwsia ym 1917 datganwyd Hlukhiv yn rhan o Weriniaeth Pobl Wcráin, ac yn ystod y rhyfel annibyniaeth fe'i meddiannwyd gan luoedd Sofietaidd yn Ionawr 1919. Byddai'n rhan o Weriniaeth Sosialaidd Sofietaidd Wcráin hyd at annibyniaeth Wcráin ym 1991—ac eithrio ei meddiannaeth gan fyddin yr Almaen Natsïaidd o Fedi 1941 i Awst 1943 yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Yn sgil goresgyniad Wcráin gan Rwsia yn Chwefror 2022, lansiwyd cyrchoedd ar Hlukhiv. Erbyn 11 Ebrill, llwyddodd lluoedd Wcráin i adennill rheolaeth dros y ddinas.[2]
Lleolir gorsaf drydan Elektropanel yn Hlukhiv, ac mae economi'r ddinas yn dibynnu ar gynhyrchu bwyd, llin, peirianwaith, defnyddiau adeiladu, a nwyddau gwlân. Prif sefydliadau addysg y ddinas ydy'r Sefydliad Ymchwil i Blanhigion Ffibrau (sefydlwyd 1931), Prifysgol Bedagogaidd Genedlaethol Oleksandr Dovzhenko (sefydlwyd 1874), a'r coleg amaethyddol (sefydlwyd 1899) sydd yn rhan o Brifysgol Amaeth Sumy. Mae pensaernïaeth y ddinas yn cynnwys y Porth Buddugoliaeth (codwyd ym 1744), Eglwys Sant Niclas (1696), Eglwys y Gweddnewidiad (1765), Eglwys y Dyrchafael (1767), ac Eglwys y Tair Sant Anastasia (1884–93).[1] Ymhlith yr enwogion o Hlukhiv mae'r cyfansoddwyr Maksym Berezovsky a Dmytro Bortniansky a'r diplomydd Oleksander Bezborodko.
Gostyngodd y boblogaeth o 35,800 yn 2001[1] i 32,200 yn 2021.