Llywodraethiaeth Rwsia Fechan
Tiriogaeth weinyddol yn Ymerodraeth Rwsia oedd Llywodraethiaeth Rwsia Fechan (Rwseg: Малороссiйская Губернiя trawslythreniad: Malorossiiskaia guberniia, Wcreineg: Малоросійська губернія Malorosiiska huberniia) a fodolai o 1764 i 1781 ac eto o 1796 i 1802. Roedd yn cyfateb i raddau helaeth â Glan Chwith Wcráin.
Map o Wcráin ym 1800, gyda Llywodraethiaeth Rwsia Fechan yn wyrddlas golau. | |
Math | governorate |
---|---|
Prifddinas | Hlukhiv, Kozelets, Kyiv, Chernihiv |
Sefydlwyd |
|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ymerodraeth Rwsia, Ymerodraeth Rwsia |
Gwlad | Ymerodraeth Rwsia |
Sefydlwyd y llywodraethiaeth yn gyntaf yn sgil diddymu'r Hetmanaeth trwy orchymyn (ukase) gan Catrin II ar 10 Tachwedd [21 Tachwedd yn yr Hen Ddull] 1764. Sefydlwyd Colegiwm Rwsia Fechan i lywodraethu'r diriogaeth, gyda'i phrifddinas yn Hlukhiv. Symudodd y ganolfan lywodraethol i Jozelets ym 1773 ac i Kyiv ym 1775.[1] Nod y drefn newydd oedd i gael gwared yn gyfangwbl ag ymreolaeth yn Wcráin, gan gynnwys swyddogion milwrol a gwleidyddol y starshyna Cosacaidd, ac i ymelwa ar economi Wcráin er budd Rwsia. Roedd y colegiwm yn cynnwys wyth o aelodau parhaol—pedwar Wcreiniad a phedwar Rwsiad—a benodwyd gan y llywodraeth ymerodrol yn St Petersburg. Llywydd y colegiwm oedd y Cownt Petr Rumiantsev, Llywodraethwr Cyffredinol Wcráin a phencadlywydd yr holl luoedd yn y diriogaeth, gan gynnwys rhanbarth Zaporizhzhia.[2] Diddymwyd y llywodraethiaeth ym 1781, a chafodd ei rhannu'n Rhaglawiaeth Novgorod-Seversky a Llywodraethiaeth Chernigov, ac ymgorffwyd rhannau eraill o'i thiriogaeth yn Rhaglawiaeth Kyiv.[1]
Adferwyd y llywodraethiaeth ym 1796, gan gynnwys yr hen Raglawiaeth Kyiv (ac eithrio'r ddinas ei hun a'r cyrion ar Lan Dde Afon Dnieper), Rhaglawiaeth Novgorod-Seversky, a Llywodraethiaeth Chernigov yn ei thiriogaeth, yn ogystal â thref Kremenchuk a chatrodau Poltava a Myrhorod. Prifddinas y llywodraethiaeth newydd oedd Chernigov. Adferwyd hen drefn farnwrol yr Hetmanaeth yn y llywodraethiaeth newydd, gan gynnwys y Llys Milwrol Cyffredinol, llysoedd yr ystadau, a llys tir pidkomorskyi. Diddymwyd Llywodraethiaeth Rwsia Fechan unwaith eto ym 1802, a chafodd ei rhannu yn llywodraethiaethau Chernigov a Poltava.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) "Little Russia gubernia", Internet Encyclopedia of Ukraine (2010). Adalwyd ar 14 Mai 2022.
- ↑ (Saesneg) Oleksander Ohloblyn, "Little Russian Collegium", Internet Encyclopedia of Ukraine (1993). Adalwyd ar 14 Mai 2022.