Hmong
Grŵp ethnig Asiaidd yw'r Hmong sy'n tarddu o ardaloedd mynyddig Tsieina, Fietnam, Laos, a Gwlad Tai. Is-grŵp o'r Miao o dde Tsieina ydynt. Cychwynodd ymfudiad graddol i'r de yn y 18g o ganlyniad i aflonyddwch gwleidyddol ac i chwilio am dir âr gwell yn Indo-Tsieina.
Merched Hmong mewn gwisg draddodiadol mewn marchnad yn Bắc Hà, Fietnam. | |
Cyfanswm poblogaeth | |
---|---|
4–5 miliwn | |
Ardaloedd gyda niferoedd sylweddol | |
Tsieina : 3 miliwn Fietnam : 787,604 | |
Ieithoedd | |
Hmongeg | |
Crefydd | |
Siamaniaeth, Bwdhaeth, Cristnogaeth, eraill |
Ymladdodd nifer o Hmong yn erbyn y Pathet Lao gomiwnyddol yn ystod Rhyfel Cartref Laos. Daethant yn darged am ddial wedi buddugoliaeth y Pathet Lao ym 1975, a bu degoedd o filoedd o Hmong yn ffoi i Wlad Tai. Ymfudodd miloedd ohonynt i wledydd y Gorllewin ers y 1970au, yn bennaf yr Unol Daleithiau ond hefyd Awstralia, Ffrainc, Guiana Ffrengig, Canada, a gwledydd De America. Cafodd eraill eu dychwelyd i Laos gan raglenni gyda chefnogaeth y Cenhedloedd Unedig. Mae tua 8000 o ffoaduriaid Hmong yn parhau i fyw yng Ngwlad Tai.