Siôn Eirian
Awdur a dramodydd o Gymru oedd Siôn Eirian (26 Mawrth 1954 – 30 Mai 2020)[1][2] a ysgrifennai yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Siôn Eirian | |
---|---|
Ganwyd | Siôn Eirian Davies ![]() 26 Mawrth 1954 ![]() Hirwaun ![]() |
Bu farw | 30 Mai 2020 ![]() Caerdydd ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | dramodydd, llenor ![]() |
Tad | Eirian Davies ![]() |
Mam | Jennie Eirian Davies ![]() |
Bywyd cynnar ac addysg
golyguGanwyd Siôn yn Hirwaun yn fab i Eirian Davies a Jennie Eirian. Roedd ei dad yn weinidog a symudodd y teulu i Frynaman yn fuan wedi ei eni. Felly fe'i magwyd ym Mrynaman a'i addysgu yn Ysgol Gynradd Brynaman. Roedd ei fam yn newyddiadurwraig, awdur, ymgeisydd gwleidyddol a golygydd cylchgrawn wythnosol Y Faner rhwng 1979 ac 1982.[3] Ganwyd ei frawd, Guto Davies yn 1958. Symudodd y teulu eto i'r Wyddgrug yn 1962 a mynychodd Ysgol Glanrafon ac Ysgol Maes Garmon. Graddiodd mewn Cymraeg ac Athroniaeth o Goleg Prifysgol Cymru Aberystwyth ym 1975.[4] Dilynodd gwrs blwyddyn ôl-radd yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd ym 1976. Daeth yn Gymrawd i'r coleg hwnnw.
Gwaith
golyguTeledu a Ffilm
golyguYsgrifennodd ddramâu ffilm megis Marwolaeth yr Asyn o Fflint (1984), Noson yr Heliwr (A Mind to Kill) (1990), Gadael Lenin (1993) a phennod o gyfres Lynda la Plante, Lifeboat, ym 1994.[5]. Ef oedd crewr ac awdur y gyfres ddrama Pen Talar (2010) i S4C.
Creodd gyfres dditectif gyntaf S4C sef Bowen a'i Bartner (tair cyfres 1984 - 1988). Ef oedd un o grewyr ac awduron y gyfres boblogaidd Mwy na Phapur Newydd (1990 - 1994). Ysgrifennodd y gyfres gomedi Mostyn Fflint 'n aye! yn 2014, ar gyfer y cymeriad o'r Wyddgrug a grëwyd a pherfformiwyd gan ei gyfoeswr o'r un ysgol Cadfan Roberts.[6]
Rhwng 1979 a 1985, roedd yn awdur sgriptiau BBC Cymru ar raglenni sy’n cynnwys Pobol y Cwm.
Dramâu llwyfan
golyguYsgrifennodd ac addasodd nifer o ddramâu yn y Gymraeg a'r Saesneg.[7] Ymhlith ei weithiau amlycaf ar lwyfan mae Wastad ar y Tu Fas, Elvis, y Blew a Fi ac Epa yn y Parlwr Cefn.[2]
- Byd Dan Eira - 2021, Cwmni Theatr Bara Caws.
- Woman of Flowers - 2018, Cwmni Theatr Pena a Canolfan Gelfyddydau Taliesin. Addasiad o ddrama Blodeuwedd gan Saunders Lewis.[8] Roedd y ddrama yn gyd-gynhyrchiad rhwng Theatr Pena a Taliesin Arts Centre.
- Yfory - 2017, Cwmni Theatr Bara Caws.[9][10]
- The Royal Bed - 2015 Theatr Pena
- Garw - 2014 Theatr Bara Caws
- Cysgod y Cryman -2007 Theatr Genedlaethol Cymru. Addasiad o nofel Islwyn Ffowc Elis.
- Hedfan Drwy’r Machlud - 2006, gan Gwmni Drama Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
- Epa yn y Parlwr Cefn - 2004 gan Gwmni Theatr 3D[11]
- Nia Ben Aur - 2003 gan Theatr na n'Og
- Cegin y Diafol - 2001 Gwmni Drama Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
- Paradwys Waed - 2000 gan Theatr Bara Caws
- The Soldier's Tale - 1998. Addasiad newydd o opera Stravinsky i Music Theatre Wales
- Epa yn y Parlwr Cefn - 1994 gan Cwmni Theatr Dalier Sylw
- Blodeuwedd - 1992 gan Gwmni Theatr y Sherman
- Woman of Flowers - 1991 gan Actors Touring Company
- Dracula - 1991 gan Sherman Theatre Company
- Elvis, y Blew a Fi -1988 Cwmni Hawyl a Fflag
- The Rising (gyda Gwyn Alff Williams ac Alan Osborne) - 1987. Cwmni Theatr Moving Being
- Wastad ar y Tu Fas -1986 Cwmni Hwyl a Fflag
- City! - 1984 Cwmni Made in Wales
- Kipper - 1983 Cwmni Theatr Clwyd
- Crash Course - 1982, Cwmni Made in Wales
- Rhys Lewis -1978 Cwmni Theatr Clwyd. Addasiad o nofel Daniel Owen.
Eisteddfod
golyguEnillodd Siôn Eirian y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 1978 am ei ddilyniant o gerddi dan y llysenw, 'Aman Bach'. Yn ddim ond 24 oed, ef oedd enillydd ieuaf y Goron erioed.[12][13] Roedd ei gerdd fuddugol yn darlunio llencyndod mewn modd cyfoes a chignoeth.
Cyn hynny, enillodd un o brif wobrau'r Urdd.
Bywyd personol
golyguCyfarfu ei ddarpar wraig Erica Eirian pan oedd y ddau yn fyfyrwyr yng Ngholeg Cerdd a Drama Caerdydd. Roedd hi'n wreiddiol o Henley-on-Thames ac aeth ymlaen i fod yn actores a chyfarwyddwraig theatr. Priododd y ddau tua 1980. [14]
Bu farw Siôn Eirian yn 66 oed wedi salwch byr. Yn ôl gwasanaeth newyddion Golwg360 "Mae’n cael ei ystyried yn un o lenorion mwya addawol ei gyfnod ac ychydig bach o ‘enfant terrible’, yn ysgrifennu am fywydau pobol ifanc wrthryfelgar yn ôl yn y 70au. Mi sgrifennodd nofel Bob yn y Ddinas, oedd yn rhagflaenu llawer o’r ysgrifennu dinesig sydd wedi bod ers hynny."[2] Cafwyd teyrnged iddo gael amryw o bobl amlwg byd y ddrama, llenyddiaeth a gwleidyddiaeth Cymru ar wefan newyddion, Nation Cymru.[15]
Llyfryddiaeth
golyguCyhoeddodd amryw byd o lyfrau, gan gynnwys cerddi, nofel, dramâu, addasiadau o nofelau a chyfieithiadau.[16]
- Plant Gadara -1975 Cyfrol o gerddi. Gwasg Gomer
- Bob yn y Ddinas -1979 Nofel. Gwasg Gomer
- Dros Bont Brooklyn : Cyfieithiad Sion Eirian O Ddrama Arthur Miller a View from the Bridge, 2003 [17] ISBN 0954561309
- Cysgod y Cryman - Addasiad Llwyfan - 2007 Gwasg Gomer [18] ISBN 9781843238225 (1843238225)
- Arolygydd y Llywodraeth - 2006, cyfieithaiad o 'The Government Inspector' gan Nikolai Gogol [19] Cyhoeddwr oleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, ISBN 9780954561314 (0954561317)
- Cegin y Diafol[20] - 2001, drama Gwasg Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ISBN 9781856446303 (1856446301)
- Woman of Flowers / The Royal Bed -2018 Theatr Pena. Cyhoeddwyd gan Atebol. ISBN 9781912261451
- Byd Dan Eira - 2021 Theatr Bara Caws. Cyhoeddwyd (wedi marwolaeth y dramodydd) gan Atebol ISBN 978-1-80106-210-7
Cyfeiriadau
golygu- ↑ @ericaeirian (12 Mehefin 2020). "ER COF AM DDRAMODYDD _ Taran ei theatr ni thewir, na melllt_fflam ei wên ni rewir;_y mae gwneud a gweud y gwir_mwy'n ddrama na ddirymir.__Jim Parc Nest__Siôn Eirian_26.3.1954_to_30.5.2020_Nos da fy nghariad" (Trydariad) – drwy Twitter.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Siôn Eirian wedi marw’n 66 oed , Golwg360, 31 Mai 2020.
- ↑ DAVIES, JENNIE EIRIAN (1925-1982), newyddiadurwraig.
- ↑ Manon Wyn Williams, Prifysgol Bangor (2015). "Tri dramodydd cyfoes: Meic Povey, Siôn Eirian ac Aled Jones Williams", Thesis PhD.
- ↑ https://www.imdb.com/name/nm0251899/bio?ref_=nm_ov_bio_sm
- ↑ Un sy'n falch o `wedi bod ene!' Annes Glynn yn sgwrsio a `mistar' Mostyn, Cadfan Roberts, amy gyfres boblogaidd. Daily Post (2 Hydref 2004). Adalwyd ar 23 Awst 2019.
- ↑ http://www.theatre-wales.co.uk/plays/author_playlist.asp?author=Sion%20Eirian
- ↑ https://www.asiw.co.uk/reviews/woman-flowers-sion-eirian-saunders-lewis-theatr-pena-2
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-22. Cyrchwyd 2019-08-22.
- ↑ https://anarchwaethus.wordpress.com/tag/sion-eirian/
- ↑ https://www.amazon.com/s?i=stripbooks&rh=p_27%3ASion+Eirian&s=relevancerank&text=Sion+Eirian&ref=dp_byline_sr_book_1
- ↑ https://www.bbc.co.uk/programmes/p00jd2td
- ↑ https://www.casgliadywerin.cymru/items/24269
- ↑ Welsh history brought to life; What's On / Q&A: ERICA EIRIAN OF THEATR PENA. , Daily Post, 27 Chwefror 2015. Cyrchwyd ar 31 Mai 2020.
- ↑ https://nation.cymru/culture/tributes-to-sion-eirian-1954-2020-poet-playwright-novelist-and-screenwriter/
- ↑ https://www.amazon.co.uk/Books-Sion-Eirian/s?rh=n%3A266239%2Cp_27%3ASion+Eirian
- ↑ https://www.brownsbfs.co.uk/Product/Eirian-Sion/Dros-Bont-Brooklyn--Cyfieithiad-Sion-Eirian-O-Ddrama-Arth/9780954561307
- ↑ http://www.gwales.com/goto/biblio/cy/9781843238225/?session_timeout=1
- ↑ http://www.gwales.com/bibliographic/?isbn=9780954561314&tsid=2
- ↑ http://www.gwales.com/bibliographic/?isbn=9781856446303&tsid=4
Dolenni allanol
golygu- "Tri dramodydd cyfoes: Meic Povey, Siôn Eirian ac Aled Jones Williams" Archifwyd 2019-08-22 yn y Peiriant Wayback, Thesis PhD Manon Wyn Williams (2015) Prifysgol Bangor