Tim Lyn
Actor a chyfarwyddwr ffilm a theledu o Gymro, yw Tim Lyn neu Timothy Lyn (ganwyd 1962).[1] Bu'n actio yn rhai o gyfresi a ffilmiau cynnar S4C fel Milwr Bychan (1987) ac Owain Glyndŵr (1983) a'r gyfres Heros (1989) a ffilmiwyd yn Awstralia gyda Jason Donovan. Bu'n cyfarwyddo a chyd-greu nifer o gyfresi a ffilmiau poblogaidd S4C fel Treflan, Pris Y Farchnad, Tydi Coleg Yn Grêt, Eldra, Cylch Gwaeda Sgwâr Y Sgorpion. Enillodd wobr BAFTA Cymru i'r Cyfarwyddwr Gorau am y rhaglen Eirlys, Dementia a Tim yn 2020[2] a'r gyfres ddrama Fondue, Rhyw a Deinosors yn 2002.[3]
Tim Lyn | |
---|---|
Ganwyd | Timothy Lyn 1962 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Cysylltir gyda | Treflan, Pris Y Farchnad |
Tad | David Lyn |
Derbyniodd ei addysg yng Ngholeg Llanymddyfri ac Ysgol Gelf Caerfyrddin gan astudio ffotograffiaeth.[4]
Mae'n fab i'r actor a'r cyfarwyddwr David Lyn. Bu'n briod â'r actores Judith Humphreys. Ymgartrefodd yn Llandwrog, Caerdydd a Llansteffan.
Gyrfa fel actor
golygu- Owain Glyndŵr (1983)
- Scene (1985)
- Milwr Bychan (1987)
- House of America (1988) - llwyfan
- Piece Of Cake (1988)
- The Heros (1989)
- A Mind To Kill (1994)
- Through The Dragon's Eye (1999)[5]
Gyrfa fel cyfarwyddwr
golygu- Pris Y Farchnad
- Cylch Gwaed (1994)
- Sgwâr y Sgorpion (1994)
- Tydi Coleg Yn Grêt (1995)
- Fondue, Rhyw a Deinosors (2002) Gwobr BAFTA Cymru i'r Cyfarwyddwr Gorau
- Eldra (2002)
- Treflan (2002)
- A Mind To Kill (2004)
- Eirlys, Dementia a Tim (2020) Gwobr BAFTA Cymru i'r Cyfarwyddwr Gorau
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Old Menai Bridge friends reunite to make touching film on dementia experience". North Wales Chronicle (yn Saesneg). 2020-01-17. Cyrchwyd 2024-09-21.
- ↑ "Eirlys, Dementia a Tim". Celtic Media Festival (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-21.
- ↑ "2002 Cymru Director: Drama | BAFTA Awards". awards.bafta.org. Cyrchwyd 2024-09-21.
- ↑ "Timothy Lyn". Hornet Squadron - a Piece Of Cake Wiki (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-21.
- ↑ "Timothy Lyn | Actor, Director". IMDb (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-21.