Hugh Owen (yr Hynaf)

cyfieithydd

Cyfieithydd oedd Hugh Owen (tua 1575-1642). Roedd yn ewyrth i William Griffith, D.C.L, canghellor Bangor a Llanelwy [q.v.], a George Griffith, D.D. esgob Llanelwy.

Hugh Owen
Ganwyd1575 Edit this on Wikidata
Llanfflewyn Edit this on Wikidata
Bu farw1642 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCymru Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfieithydd, clerig Edit this on Wikidata

Y dyddiau cynnar

golygu

Ganwyd Owen tua 1575 yn Llanfflewyn, Ynys Môn, yn fab i Owen ap Hugh ap Richard.[1] Pan yn ifanc, hyd at 1622, bu'n gweithio fel goruchwyliwr ar ystad Bodeon, Llangadwaladr, Ynys Môn, a rhwng 1614 a 1618 cymerodd ran bwysig fel capten cartreflu cwmwd Talybolion gydag achosion milwrol ar yr ynys. Priododd ferch i Thomas Bulkeley o'r Groesfechan ger Amlwch, sef Elisabeth, a bu iddynt ddau fab a saith o ferched.

Gwaith

golygu

Er nad yw'n sicr a gafodd addysg prifysgol, datblygodd i fod yn berson hyddysg yn y gyfraith ac mewn mwy nag un iaith dramor ('yr hyn ni ddyscodd gan nebyn Athro arall ond efe ei hun gartref yn ei studi ei hunan'). Yn ystod y cyfnod hwn dewisodd grefydd Eglwys Rhufain, ac yn 1622 cafodd swydd fel ysgrifennydd yn Worcester House gyda'r arglwydd Herbert yn Llundain. Cadwodd y swydd hon tan tua chanol 1640 pan symudodd ei gyflogwr o Lundain i gastell Rhaglan pan yr etifeddodd hwnnw iarllaeth Worcester. Ar ôl hynny mae'n ymddangos ei fod wedi penderfynu ymddeol yn ardal Abaty Tyndyrn.

Bu farw ym mhlwyf Chapel Hill yng ngwanwyn 1642.

Cyfeiriadau

golygu
J. H. Davies yn Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1897-8, 13-15;
W. Llewelyn Williams, ibid., 1901-2, 136-44;
Y Cymmrodor, xvi, 176-7;
Journal of the Welsh Bibliographical Society, I, ii, 59-62;
T. Llechid Jones, ibid., III, iv, 145-51; III, v, 204-19;
A. O. Evans, ibid., IV, i, 15-6;
E. G. Jones yn Trafodion Cymdeithas Hynafiaethwyr a Naturiaethwyr Môn, 1938, 42-9;