Johann Heinrich Füssli
Arlunydd ac awdur ar gelf o'r Swistir oedd Johann Heinrich Füssli (7 Chwefror 1741 – 17 Ebrill 1825), a ymsefydlodd yn Lloegr lle daeth yn adnabyddus wrth yr enw Henry Fuseli, enw a fabwysiadodd tra'n gweithio yn yr Eidal yn y 1770au. Roedd yn frodor o Zürich.
Johann Heinrich Füssli | |
---|---|
Ganwyd | 7 Chwefror 1741 Zürich |
Bu farw | 16 Ebrill 1825, 1825 Putney |
Dinasyddiaeth | Y Swistir, y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | arlunydd, bardd, drafftsmon, darlunydd, arlunydd graffig, drafftsmon, hanesydd celf, artist, arlunydd |
Adnabyddus am | Titania and Bottom, Percival Delivering Belisane from the Enchantment of Urma, The Nightmare |
Arddull | portread (paentiad), paentiadau crefyddol, peintio hanesyddol, portread |
Mudiad | Rhamantiaeth, fairy painting, Neo-glasuriaeth |
Tad | Johann Caspar Füssli |
Ganed Füssli yn Zurich yn 1741 yn fab i'r peintiwr portreadau Johann Caspar Füssli (1706-1782). Ganed ei frawd Johann Kaspar (1743-1786) ddwy flynedd yn ddiweddarach a daeth yn entomolegydd adnabyddus.
Nodweddir peintiadau a darluniau Füssli gan arddull dyrchafol, delfrydol, a ysbrydolwyd gan waith Michelangelo ac eraill. Prif destunau ei waith yw digwyddiadau mawr mewn hanes a themau mytholegol, yn enwedig o fytholeg yr Henfyd.
Yn Lloegr daeth Füssli yn ffigwr dylanwadol iawn ym myd celf. Yn 1799 cafodd ei apwyntio yn athro arlunio yn yr Academi Frenhinol, Llundain, ac yn geidwad yn 1804. Ymhlith ei ddisgyblion yn yr Academi roedd John Constable (1776-1837), Benjamin Robert Haydon (1786-1846), William Etty (1787-1849), Edwin Landseer (1802-73), a'r Cymro Penry Williams (1880-1885).
Dolenni allanol
golygu- Peintiadau ar PaintingDb Archifwyd 2010-01-25 yn y Peiriant Wayback