Tŷ Siamas

amgueddfa yn Nolgellau

Tŷ Siamas yw Canolfan Genedlaethol Gerddoriaeth Werin, a fe'i lleolir yn Nolgellau, Gwynedd. Enwir yr amgueddfa ar ôl Elis Siôn Siamas, telynor o'r 18fed ganrif.[1] Galwodd Ywain Myfyr, cadeirydd a sylfaenydd Sesiwn Fawr Dolgellau, am ganolfan gerddoriaeth werin o'r fath. Agorwyd Tŷ Siamas yn 2007 yn yr hen Neuadd Idris, dan arweiniad Mabon ap Gwynfor.[1]

Tŷ Siamas
Mathamgueddfa, sefydliad, canolfan treftadaeth Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 2007 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadNeuadd Idris Edit this on Wikidata
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr13.3 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.742339°N 3.885844°W Edit this on Wikidata
Cod postLL40 1PU Edit this on Wikidata
Map
Sefydlwydwyd ganHuw Dylan Owen Edit this on Wikidata

Ariannwyd y prosiect gan Gyngor Gwynedd trwy'r Gronfa Adfywio Lleol ac ystod o gronfeydd eraill, gan gynnwys cymorth gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru gyda chyfanswm o £1.2 miliwn. Beirniadodd Darren Millar AS, cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, y prosiect yn 2013 am iddo greu dwy swydd rhan-amser yn lle'r 19 o swyddi amser llawn a ddisgwyliwyd.[2]

Datgelwyd murlun am gerddoriaeth gan Andy Birch ar wal Tŷ Siamas ym mis Gorffennaf 2021.[3]

Cynhelir sesiynau cerddoriaeth werin anffurfiol 'Sesiwn Ioan Rhagfyr' yno ar drydydd nos Fercher y mis. Enwir y sesiynau ar ôl y cerddor lleol, John Williams (Ioan Rhagfyr) (1740-1821) bu'n byw a chyfansoddi yn yr ardal.[4]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "Folk centre 'must attract more'". BBC News (yn Saesneg). 20 Mawrth 2008. Cyrchwyd 26 Medi 2022.
  2. "Questions raised over Ty Siamas folk centre jobs plan". BBC News (yn Saesneg). 17 Gorffennaf 2013. Cyrchwyd 26 Mehefin 2022.
  3. "Musical-inspired mural brightens up town". Cambrian News (yn Saesneg). 26 Gorffennaf 2021. Cyrchwyd 26 Medi 2022.
  4. "Sesiwn Ioan Rhagfyr Dolgellau". Gwefan Trac. Cyrchwyd 7 Mawrth 2024.

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato