Sesiwn yng Nghymru - Cymry, Cwrw a Chân

llyfr gan Huw Dylan Owen

Cyfrol o ysgrifau gan Huw Dylan Owen yw Sesiwn yng Nghymru: Cymry, Cwrw a Chân a gyhoeddwyd yn 2015 gan Y Lolfa. Man cyhoeddi: Tal-y-bont, Cymru.[1]

Sesiwn yng Nghymru - Cymry, Cwrw a Chân
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurHuw Dylan Owen
CyhoeddwrY Lolfa
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi14/07/2015
ArgaeleddAr gael
ISBN9781784611255
GenreLlyfrau am gerddoriaeth Cymru

Mae'r gyfrol yn ymdrin a byd sesiynau gwerin yng Nghymru, gydag enw a nodiant alaw Gymreig yn bennawd i bob pennod. Llyfr unigryw ei naws gelfyddydol na chyhoeddwyd ei fath yn y Gymraeg o'r blaen.

Sesiynwr gwerin a fu'n aelod o'r grwpiau Defaid a Gwerinos yw Huw Dylan Owen. Roedd yn un o sylfaenwyr Sesiwn Fawr Dolgellau a Gŵyl Tyrfe Tawe yn Abertawe, a hefyd yn un o gyfarwyddwyr gwreiddiol y Ganolfan Werin Genedlaethol, Tŷ Siamas, Dolgellau.


Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan Gwales; adalwyd 1 Awst 2017