Huw o Ruddlan
Awdur rhamantau Ffrangeg-Normanaidd oedd Huw o Ruddlan neu Huon[1] neu Hue de Rotelande (bl. 1180 - 1190). Un o Normaniaid y Mers oedd o. Yn ôl pob tebyg bu'n byw yn Rhuddlan yn ei ieuenctid cyn symud i fyw i ardal Credenhill, ger Henffordd.[2]
Huw o Ruddlan | |
---|---|
Ganwyd | 1150 Sir Ddinbych |
Bu farw | 1190 |
Man preswyl | Credenhill |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Ffrainc, Cymru |
Galwedigaeth | bardd, llenor |
Adnabyddus am | Ipomedon, Protheselaus |
Ganed Huw rhywbryd cyn tua 1160. Ysgrifennodd dwy ramant ar gerdd yn y cyfnod 1180-1190, sef Ipomedon a'i dilyniant Protesilaus. Ymddengys mai Gilbert Fitz-Baderon, arglwydd Normanaidd Mynwy, oedd ei noddwr gan fod y ddwy gerdd wedi eu cyfansoddi "er difyrrwch" iddo.[3]
Cefndir Groegaidd Clasurol sydd i'r ddwy gerdd, a leolir yn ne'r Eidal a Sisilia.[4] Y brif thema yw anturiaethau'r marchog Ipomedon, ond ceir cyfeiriadau cynnil at ddau Gymro cyfoes hefyd, sef "y Brenin Ris" (Yr Arglwydd Rhys efallai) a'r llenor Lladin o ddeau Cymru, Gwallter Map (Walter Map).[3]
Llyfryddiaeth
golygu- A. J. Holden (gol.), Ipomedon (1975)