Agor y brif ddewislen

Llenor Lladin oedd Walter Map (amrywiadau: Mahap, Mapes) neu Gwallter Map (bl. tua 1140 - 1209). Credir ei fod yn Gymro neu o leiaf o dras Gymreig ac yn byw yn Erging, Swydd Henffordd, ardal Gymraeg ei hiaith yn yr Oesoedd Canol a fu'n un o deyrnasoedd cynnar Cymru.[1]

GyrfaGolygu

Gŵr o dras fonheddig oedd Walter Map. Roedd yn gyfaill i'r llenor Lladin Cymreig-Normanaidd Gerallt Gymro, awdur Hanes y Daith Trwy Gymru a gweithiau eraill. Cafodd ei addysg brifysgol ym Mharis, Ffrainc. Ar ôl ei gyfnod ym Mharis cafodd yrfa hir fel clerigwr a llysgenad. I goroni ei yrfa, fe'i urddwyd yn Archddiacon Rhydychen yn 1197.[1]

Cyfeiria'r awdur rhamantau Ffrangeg-Normanaidd Huw o Ruddlan (bl. 1180-1190) at Walter Map yn ei gerdd Ipomedon a'i dilyniant Protesilaus.[1]

Gwaith llenyddolGolygu

Roedd Map yn adnabyddus yn ei ddydd fel awdur sawl gwaith yn yr iaith Ladin, ond erbyn heddiw yr unig waith sy'n cael ei dderbyn yn ddibetrus fel gwaith dilys Map yw'r De Nugis Curialium ("Lloffion o'r Llys"). Credir i'r llyfr hwnnw gael ei gyfansoddi yn y cyfnod 1180-1193, cyn iddo fynd i Rydychen. Mae'n gymysgfa o hanesion amrywiol, yn bytiau o hanes go iawn, rhamantau a chwedlau. Cysylltir nifer o'r straeon hyn â Chymru ac maent o ddiddordeb arbennig i efrydwyr llên gwerin.

Mae'r De Nugis yn cynnwys hanesion am Gruffudd ap Llywelyn (m. 1063), Brenin Cymru, ond casglu straeon am bobl oedd dull Map o lunio hanes ac ni ellir dibynnu ar ei waith fel ffynhonnell hanes.[1]

LlyfryddiaethGolygu

  • De Nugis Curialium, golygwyd gan M.R. James (Anecdota Oxoniensis, 1914)
  • De Nugis Curialium, cyfieithwyd gan M.R. James (Cymmrodorion Record Series, 1923)
  • R. T. Jenkins (cyf.), Storïau Gwallter Map (Llyfrau'r Dryw, 1941). Detholiad o straeon o'r De Nugis Curialium gyda rhagymadrodd.

CyfeiriadauGolygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru).