Hwb
Gwefan a chasgliad o offer ar-lein yw Hwb a ddarperir i bob ysgol yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru. Fe'i crëwyd mewn ymateb i'r adroddiad 'Dod o Hyd iddo, Ei Wneud, Ei Ddefnyddio, Ei Rannu' ar Ddysgu Digidol yng Nghymru a sbardunwyd gan y Gweinidog Addysg ar y pryd, Leighton Andrews.[1]
Enghraifft o'r canlynol | gwefan |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 2012 |
Gwefan | https://hwb.gov.wales/ |
Mae Hwb yn darparu mynediad i offer fel Microsoft Office 365, Google Classroom, J2e, ac Adobe Spark i gyd am ddim i fyfyrwyr yng Nghymru.
Erbyn 2015 roedd y brif wefan yn cynnwys dros 88,000 o adnoddau dwyieithog a drosglwyddwyd o GCaD Cymru. Yn ogystal, gall athrawon a dysgwyr sydd â chyfrifon fewngofnodi a chael mynediad at ystod o offer ac adnoddau ar-lein eraill. Yn gynwysedig yn hwn mae Llwyfan Dysgu ysgol-benodol (Hwb+).[2]
Lansio
golyguLansiwyd y porth ar lefel peilot yn 2012 wedi'i gynllunio i alluogi holl ddisgyblion ac athrawon Cymru i gael mynediad gwell at adnoddau ar-lein. Roedd yn galluogi defnyddwyr i gael mynediad at a rhannu gwybodaeth ac mae i fod ar gael o unrhyw ddyfais sy’n galluogi’r rhyngrwyd. Cafwyd prosiect peilot mewn pedair ysgol yng Nghaerdydd.
Disgrifiodd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, y system fel system "o'r radd flaenaf" ar gyfer y rhai rhwng tair a 19 oed.[3]
Cynnwys
golyguMae'r porth yn cynnwys adnoddau a deunydd yn holl bynciau a ddysgu yn system addysg orfodol Cymru. Mae'r rhain wedi eu rhestri o dan brif themâu: [4]
- Y Celfyddydau Mynegiannol
Yn cynnwys celf, dawns, drama, ffilm, a chyfryngau digidol, a cherddoriaeth
- Iechyd a Lles
Yn cynnwys datblygu iechyd corfforol, iechyd meddwl a lles emosiynol cadarnhaol
- Y Dyniaethau
Yn cynnwys daearyddiaeth, hanes, astudiaethau busnes, astudiaethau cymdeithasol, a chrefydd, gwerthoedd a moeseg
- Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
Yn galluogi dysgwyr i feithrin gwybodaeth a datblygu sgiliau yn Gymraeg, Saesneg ac mewn ieithoedd rhyngwladol
- Mathemateg a Rhifedd
Yn cynnwys y system rif, algebra, geometreg, ystadegau a data
- Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Yn cynnwys bioleg, ffiseg, cemeg a chyfrifiadureg
- Dysgu Sylfaen
Dulliau dysgu ac addysgu addysg gynnar i leoliadau ac ysgolion
- Cynllunio cwricwlwm
Cefnogi ysgolion a lleoliadau yn eu datblygiad parhaus o'u cwricwla
Ceir hefyd manylion am Cwricwlwm i Gymru, calendr digwyddiadau, gwybodaeth dysgu proffesiynol, addysg Minecraft a Siarter Iaith.[5]
Ymestyn
golyguYn Ionawr 2021 yn sgil Covid-19 cyhoeddod S4C eu bod yn rhyddhau 80 awr o raglenni addysgol ar y porth. Roedd y rhaglenni ar Hwb yn cynnwys 13 cyfres wahanol gan gynnwys cyfresi plant Shwshaswyn, Dwylo'r Enfys, Amser Maith Maith yn ôl, a hefyd rhaglenni o'r brif amserlen fel Cynefin a DRYCH.
Cynhwyswyd hefyd ffilmiau a chynnwys sydd ar y cwricwlwm Safon A, AS a TGAU hefyd yn cael eu hychwanegu i'r platfform ac yn dod yn rhan o arlwy S4C ar Hwb gan gynnwys Martha Jac a Sianco, ac Y Gwyll.[6]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "'Find it, Make it, Use it, Share it' pdf on Welsh Govt Website" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2012-08-17. Cyrchwyd 2015-01-31.
- ↑ "About the project on the Hwb site". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-01-31. Cyrchwyd 2015-01-31.
- ↑ "Hwb: 'World class' claim for learning scheme in Wales". =BBC Wales News. 12 Rhagfyr 2012.
- ↑ "Adnoddau". Gwefan Hwb. Cyrchwyd 24 Ionawr 2024.
- ↑ "Blaendalen hafan Hwb". Gwefan Hwb. Cyrchwyd 24 Ionawr 2024.
- ↑ "S4C yn rhyddhau 80 awr o raglenni ar borth addysgol Hwb Llywodraeth Cymru". Gwefan S4C. 15 Ionawr 2024.