Puteindra

(Ailgyfeiriad o Hwren)
Mae 'putain' a 'hwran' yn ailgyfeirio yma.

Y weithred o gael cyfathrach rywiol neu wasanaethau rhywiol eraill am arian yw puteindra. Fe'i gelwir yn aml "yr alwedigaeth hynaf yn y byd" am fod gan yr arfer hanes hir iawn. Mae'r sefyllfa gyfreithiol yn amrywio'n fawr o wlad i wlad ac mae wedi newid hefyd o gyfnod i gyfnod; mewn rhai gwledydd mae'n gyfreithlon ond mewn ambell wlad mae'n drosedd ddifrifol. Cysylltir puteindra â merched sy'n cynnig eu gwasanaethau i ddynion yn bennaf, ond ceir puteiniaid gwrywaidd hefyd, naill ai'n hoyw neu fel cwmni i ferched. Gelwir y rhain yn "jigolos".

Putain yn yr Almaen

Ceir sawl enw Cymraeg i ddisgrifio rhywun sy'n puteinio ei hunan. Y mwyaf cyffredin yw putain, hwr a hwran.

O ran lleoliad, ceir puteiniaid sy'n gweithio ar y stryd (puteindra stryd), mewn adeiladau neilltuol (puteindai), neu drwy asiantaethau hebrwng/escort). Mae lleoliadau eraill yn cynnwys tafarnau, clybiau nos a sawnau.

Hanesyddol

golygu

Mae testunau Cyfraith Hywel yn cydnabod bodolaeth puteindra yng Nghymru yn yr Oesoedd Canol. Ceir cymalau yn y llyfrau cyfraith am statws y butain, gan ddefnyddio'r gair hwnnw; o blith merched a gwragedd, dim ond y butain sydd heb yr hawl i iawndal os caiff ei threisio. Ceir cyfeiriadau hefyd at "ferched perth a llwyn" (cymharer y dywediad "plentyn perth a llwyn" am "blentyn siawns"), ond mae'n aneglur os oedd y merched hynny yn cael eu hystyried yn buteiniaid fel y cyfryw gan fod cariadon yn cwrdd yn y goedwig hefyd - sy'n olygfa ystrydebol yng nghanu serch y cyfnod - er bod awgrym fod rhai ohonynt yn buteiniaid.[1] Mae gan y bardd Prydydd Breuan (fl. canol y 14g) gerdd filain a phersonol iawn ei naws i ferch anhysbys o'r enw Siwan Morgan o Aberteifi. Mae'n gerdd syfrdanol o fras a masweddus sy'n darlunio Siwan fel putain flonegog aflan, dwyllodrus, sydd wedi cael "saith cant cnych" (sef 'saith can cnychiad') neu ragor.[2]

Yn fwy diweddar, roedd ardal Bae Caerdydd (a dinas Caerdydd yn gyffredinol) yn adnabyddus am ei phuteiniaid. Yn y ddeunawfed ganrif, yn ôl Iolo Morganwg, roedd "puteiniaid Caerdydd" yn ddywediad cyffredin ym Mro Morgannwg.[3]

Cyfoes

golygu

Mewn adroddiad gan BBC Cymru yn 2000, honnir fod tua 30 o buteiniaid ifainc, rhai ohonynt dan oed, yn gweithio ar y stryd mewn un ardal yng nghanol Caerdydd.[4] Yn 2007, cafodd tri pherson eu deddfrydu i garchar am redeg puteindai mewn tai preifat yn Rhuddlan, Penmaenmawr a Bae Colwyn yng ngogledd Cymru. Merched o dde-ddwyrain Asia, yn cynnwys Tsieina, oedd yn gweithio yno, ac roedd y busnes yn cael ei rhedeg gan Gymro, Sais a merch o dras Tsieineaidd.[5]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Dafydd Jenkins a Morfydd E. Owen (gol.), The Welsh Law of Women (Gwasg Prifysgol Cymru, 1980), tt. 35, 91.
  2. Huw Meirion Edwards (gol.), Gwaith Prydydd Breuan a cherddi dychan eraill o Lyfr Coch Hergest (Aberystwyth, 2000). 'Cyfres Beirdd yr Uchelwyr'. Tud. 13, llinell 11.
  3. G. J. Williams, Iolo Morganwg (Gwasg Prifysgol Cymru, 1956), tud. 31.
  4. BBC Wales "Social workers at 'breaking point'", 15 Mawrth, 2000
  5. BBC Wales "Three jailed for running brothel", 12 Hydref, 2007

Gweler hefyd

golygu
Chwiliwch am puteindra
yn Wiciadur.