Hwyaden goch yr eithin
Hwyaden goch yr eithin | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Anseriformes |
Teulu: | Anatidae |
Genws: | Tadorna |
Rhywogaeth: | T. ferruginea |
Enw deuenwol | |
Tadorna ferruginea (Pallas, 1764) |
Mae Hwyaden goch yr eithin (Tadorna ferruginea) yn aelod o deulu'r Anatidae, yr hwyaid, gwyddau ac elyrch. Mae'n nythu yn ne-ddwyrain Ewrop a chanolbarth Asia hyd at ogledd India (lle mae'n cael ei adnabod fel Hwyaden Brahminy) a Tsieina, gyda nifer bychan yng ngogledd-orllewin Affrica. Mae'n berthynas i Hwyaden yr eithin.
Fel rheol mae'r hwyaden yma yn aderyn mudol, yn gaeafu yn ne Asia. Mae'n nythu mewn tyllau yn y ddaear neu dyllau mewn coed, yn aml ymhell o'r dŵr. Dodwyir 6-16 o wyau. Nid yw'n ymgasglu'n heidiau mawr fel rheol, er y gellir gweld cryn nifer lle mae digonedd o fwyd.
Mae Hwyaden goch yr eithin yn aderyn hawdd ei adnabod. Mae'n weddol fawr, 58–70 cm o hyd a 110–135 cm ar draws yr adenydd, gyda'r corff i gyd yn liw oren a'r pen ychydig yn fwy gwelw. Gwyn yw'r adenydd, gyd a plu hedfan du. Gellir gwahaniaethu rhwng y ddau ryw trwy edrych an y dorch ddu o gwmpas gwaelod gwddf y ceiliog yn y tymor nythu, ac mae gan yr iâr yn aml ddarn gwyn ar yr wyneb.
Nid yw Hwyaden goch yr eithin yn nythu yng Nghymru ac mae'n aderyn gweddol brin, er bod ambell un yn cael ei gweld bob blwyddyn. Mae'n ansicr faint o'r rhain sy'n adar gwyllt wedi crwydro o dde Ewrop a faint sydd wedi dianc o gasgliadau adar.