Hwyaden gynffon-hir

rhywogaeth o adar
Hwyaden Gynffon-hir
Ceiliog
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Anseriformes
Teulu: Anatidae
Genws: Clangula
Leach, 1819
Rhywogaeth: C. hyemalis
Enw deuenwol
Clangula hyemalis
(Linnaeus, 1758)

Mae'r Hwyaden Gynffon-hir (Clangula hyemalis) yn un o deulu'r hwyaid môr a'r unig aelod o'r genws, Clangula. Mae'n nythu yn y gogledd, gan gynnwys Alaska, gogledd Canada, gogledd Ewrop a gogledd Rwsia. Yn y gaeaf mae'n symud tua'r de.

Gellir adnabod y ceiliog yn hawdd o'r gynffon hir. Yn y gaeaf mae'r pen a'r gwddf yn wyn gyda darn du ar y foch, bron ddu a'r rhan fwyaf o weddill y corff yn wyn. Yn yr haf, mae ei blu yn dywyllach, gyda pen, gwddf a chefn tywyll a darn gwyn ar ei foch. Mae cynffon yr iâr yn fyrrach a'r cefn yn frown; fel y ceiliog mae'r pen yn wyn yn y gaeaf ac yn dywyll yn yr haf.

Adeiledir y nyth ar lawr gerllaw'r môr neu lynnoedd mawr. Yn y gaeaf mae'n treulio'i amser ar y môr fel rheol, wethiau mewn heidiau mawr, yn enwedig ym Môr y Baltig lle mae tua 4.5 miliwn yn ymgasglu. Maent yn gallu nofio dan wyneb y dŵr i ddal bwyd megis crancod bychain a physgod bach. Ambell dro gallant blymio i ddyfnder o tua 60m (200 troedfedd) er nad ydynt yn gwneud hyn fel arfer.

Nid yw'r Hwyaden Gynffon-hir yn nythu yng Nghymru ond gellir gweld nifer fach ar y môr yn y gaeaf ac ambell dro gwelir un ar y llynnoedd mwyaf.

Iâr ar ei nyth.
Clangula hyemalis