Hychan
Sant a gŵr Cristnogol oedd Hychan a fu'n byw yn yr hyn a elwir heddiw yn Llanychan, ger Dinbych tua 450 OC; roedd ganddo hefyd gysylltiad gydag ardal Llanfarian, Aberystwyth.
Hychan | |
---|---|
Ganwyd | Sir Ddinbych |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | mynach |
Blodeuodd | 450 |
Dydd gŵyl | 8 Awst |
Yn Cognacio Brychan, De Situ Brecheniauc ac yn llawysgrif "Achresi Eglwys Crist MS 20", dywedir ei fod yn un o feibion Brychan, brenin a sant (fl. 5g), sefydlwr teyrnas Brycheiniog (yn ne-ddwyrain canolbarth Cymru) yn ôl y traddodiad. Dethlir ei ddydd mabsant ar 8 Awst.[1]
Ceir dwy eglwys wedi'u henwi ar ei ôl.
Llanychan, Rhuthun
golyguSonir am Llanychan yn gyntaf yng 'Nghofnodion Treth Norwich' yn 1254.[2] Mae ei llan gylchog uchel yn nodedig iawn ac yn brawf y bu yma unwaith Eglwys Geltaidd, gynharach. Mae Eglwys Sant Hychan yn debyg iawn o ran arddull i Eglwys Sant Cynhafal, ond ei bod yn llawer llai ac nid oes iddi ddau gorff, nodwedd bensaernïol gyffredin iawn yn Nyffryn Clwyd. Yn y 16g ceir y sillafiad 'Llan Hichen'.
Llanfarian, Aberystwyth
golyguEglwys fechan yng nghymuned Llanfarian yw Eglwys Sant Hychan.[3] Cofnodir ei henw hefyd fel Llanychaiarn.[4] Mae hanner ei mynwent yn gron. Fe'i lleolir tua 350m i'r de o Gastell Tan-y-Bwlch (castell gwreiddiol Aberystwyth) a godwyd yn wreiddiol yn 1110; mae'n bosibl i'r eglwys gael ei chodi ar yr un pryd, neu'n gynharach, ond nid oedd plwyf Sant Hychan yn bodoli yn yr Oesoedd Canol, dim ond 'capel' a berthynai i Lanbadarn Fawr.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ An Essay on the Welsh Saints or the primitive Christians, usually considered ... gan Rice REES (B.D.). adalwyd 2 Hydref 2016.
- ↑ "Gwefan Eglwys Llanychan". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-03-26. Cyrchwyd 2016-10-02.
- ↑ Gwefan coflein; adalwyd 2 Hydref 2016.
- ↑ Gwefan coflein; adalwyd 2 Hydref 2016.
Llyfryddiaeth
golygu- Cambria Archaeology, 2000, Ceredigion Churches, gazetteer, 48.
- T. Lloyd, J. Orbach a R. Scourfield, Buildings of Wales: Carmarthenshire and Ceredigion (2006), tt.539-40.