Syr Hywel y Fwyall

marchog o Gymro a Chwnstabl (ceidwad) Castell Cricieth
(Ailgyfeiriad o Hywel y Fwyall)

Roedd Syr Hywel y Fwyall neu Syr Hywel ap Gruffudd (fl. 1330 - 1381), yn farchog o Gymro a Chwnstabl (ceidwad) Castell Cricieth. Roedd yn ymladdwr dewr oedd yn enwog yn ei ddydd. Ei ddewis arf oedd y fwyell.

Syr Hywel y Fwyall
Ganwyd1330 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
Bu farw1381 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethperson milwrol Edit this on Wikidata
TadGruffudd ap Hywel Edit this on Wikidata
MamAngharad ferch Tegwared Edit this on Wikidata

Ei hanes

golygu

Roedd Syr Hywel yn enwog iawn am ei gampau fel capten ym myddin y Tywysog Du ym mrwydr Poitiers (1356). Yn ôl traddodiad daliodd Jean Dda, brenin Ffrainc yno. Cafodd Syr Hywel lwfans bwyd iddo ef ei hun a'i fwyell enwog yn ogystal, rhenti melinau yng Nghaer ac, yn ddiweddarach, gwnstabliaeth Castell Cricieth, i gyd gan y tywysog yn ddiolch iddo am ei wrhydri. Mae'n debyg mai oherwydd iddo dorri barf brenin Ffrainc â'i fwyell y cafodd y llysenw "Syr Hywel y Fwyall".

Cyfeiriadau gan y beirdd

golygu

Canodd Iolo Goch gywydd i Syr Hywel tua'r flwyddyn 1376. Canodd Gruffudd Gryg gywydd i Einion ap Gruffudd, brawd Syr Hywel.

Erys ar glawr marwnadau iddo gan Ruffudd ap Maredudd a Rhisierdyn.

Llyfryddiaeth

golygu
  • D.R. Johnston (gol.), Gwaith Iolo Goch (Caerdydd, 1988). Cywydd 2 a'r nodiadau iddo.
  • Y Bywgraffiadur Cymreig, t.345.