Un o Feirdd yr Uchelwyr a ganai yn ail hanner y 14g oedd Rhisierdyn (bu farw yn y 1410au efallai). Mae'n debygol ei fod yn frodor o Ynys Môn.[1]

Rhisierdyn
Ganwyd14 g Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ni wyddys dim o gwbl bron am y bardd ar wahân i dystiolaeth ei gerddi ei hun a cherdd ymddiddan iddo gan ei gydfardd Gruffudd Fychan ap Gruffudd ab Ednyfed. Noda William Salesbury, mewn rhestr o feirdd a luniwyd tua 1574, fod Rhisierdyn yn fardd o Fôn. Er nad oes modd cadarnhau hynny, mae'r ffaith fod nifer uchel o'i noddwyr naill ai'n byw ar yr ynys neu'n aelodau o deuluoedd o'r ynys yn tueddu i ategu'r awgrym, ond canodd y bardd i sawl noddwr arall yng ngogledd Gwynedd hefyd.[1]

Cerddi golygu

Pedair awdl ac un cywydd o waith y bardd sydd ar glawr. Canodd i rai o bobl pwysicaf ei gyfnod yng ngogledd-orllewin Cymru, sef Goronwy Fychan ap Tudur o Benmynydd (Môn) a'i wraig Angharad, Hywel ap Gruffudd o Eifionydd, Hwlcyn ap Hywel o Brysaeddfed (hefyd ym Môn), a Ieuan ap Rhys, Abad Aberconwy. Ei awdl i Ieuan ap Rhys yw'r cynharaf sydd ar glawr o gyfres ddiddorol o gerddi i abadau Aberconwy. Ymddengys mai Tuduriaid Môn, ac yn enwedig Goronwy ap Tudur, oedd prif gynheiliaid y bardd.[1]

Canu mawl traddodiadol, amhersonol braidd ond o safon uchel, yw trwch a sylwedd gwaith Rhisierdyn. Er iddo ganu yn Oes y Cywyddwyr, glynu wrth arddull y Gogynfeirdd a wnaeth y bardd, gan bentyrru ansoddeiriau a thynnu ar eirfa hynafol. Ymhlith ei hoff fesurau y mae'r rhupunt a'r englyn unodl union.[1]

Cedwir ei waith yn Llyfr Coch Hergest, yn llaw Hywel Fychan.[1]

Llyfryddiaeth golygu

  • Nerys Ann Jones (gol.), 'Gwaith Rhisierdyn', yn Gwaith Sefnyn, Rhisierdyn, Gruffudd Fychan ap Gruffudd ab Ednyfed a Llywarch Bentwrch (Aberystwyth, 1995). 'Cyfres Beirdd yr Uchelwyr'.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 Nerys Ann Jones (gol.), 'Gwaith Rhisierdyn'.